Fe fyddai newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol “yn gwadu llais a dewis go iawn i filoedd ar filoedd o bobl Cymru” ac yn golygu bod “Llafur yn elwa ar draul pawb arall”, yn ôl ffigyrau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r ffigyrau  wedi eu cyhoeddi gan y Gymdeithas Newid Etholiadol (CNE) ac yn dangos i ba raddau y bydd Llafur Cymru yn elwa pe byddai system Cyntaf-i’r-Felin (FPTP) yn cael ei fabwysiadu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r ffigyrau wedi’u cynnwys mewn adroddiad gan y Gymdeithas gyda Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Aberystwyth a’r Athro Roger Scully.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif beth fyddai canlyniadau Etholiadau’r Cynulliad 2011 wedi bod o dan systemau pleidleisio gwahanol.

Mae diwygio etholiadol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn bwnc sydd yn ôl ar yr agenda wedi i Brif Weinidog Cymru roi awgrym y byddai’n newid sut mae Aelodau Cynulliad (ACau) yn cael eu hethol.

Mae Llywodraeth y DU yn debygol o gynnig toriad yn nifer yr ACau o etholaethau o 40 i 30, yn dilyn y toriad yn nifer y ASau Cymreig. I wneud i fyny am hyn, mi fyddai mwy o ACau yn cael eu hethol o’r system rhestr ranbarthol  – 30, yn hytrach na’r 20 sydd yna ar hyn o bryd.

Mewn ymateb i’r cynnig hwn, mae Llafur Cymru wedi datgan ei ffafriaeth i bob AC i gael ei ethol drwy’r system Cyntaf i’r Felin (FPTP) – dau aelod o bob un o’r 30 etholaeth mewn system a elwir yn Cyntaf i’r Felin Dau Aelod.

Ond, fel y mae ymchwil CNE yn datguddio, mi fyddai Cyntaf i’r Felin Dau Aelod yn gwadu llais i filoedd ar filoedd o bleidleiswyr Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn elwa Llafur ar draul pawb arall.

Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cymru’r Gymdeithas Newid Etholiadol: “Mae ein hymchwil yn dangos y byddai Llafur wedi ennill bron i 70% o seddi’r Cynulliad pe byddai etholiad diwethaf wedi cael ei gynnal drwy’r drefn Cyntaf i’r Felin Dau Aelod. Mae hyn er i Lafur ennill ond tua 40% o’r bleidlais.

“Tra bod hyn yn newyddion da i ddarpar ymgeiswyr Llafur mae’n newydd drwg i bleidleiswyr Cymru. Byddai Cyntaf i’r Felin Dau Aelod yn gwadu llais a dewis go iawn i filoedd ar filoedd o bobl Cymru.

“Mae dros hanner pleidleiswyr Cymru wedi dewis y Ceidwadwyr, Plaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Mai, ac eto o dan Cyntaf i’r Felin Dau Aelod, mi fyddai gan y pleidiau yma lai na thraean o seddi yn y Cynulliad rhyngddynt. Byddai hynny’n ddrwg i ddemocratiaeth ac yn ddrwg i ddatganoli.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos sut y byddai’r pleidiau yn perfformio pe bai Cymru’n defnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), y system a ddefnyddir i ethol ASau yn Iwerddon.

Dywedodd Yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru: “Mae system bleidleisio’r Cynulliad wedi cael ei drafod yn helaeth eisoes gan Gomisiwn annibynnol Richard.

“Daeth y Comisiynwyr, a gafodd eu dewis ar sail drawsbleidiol ac ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, i’r casgliad mai STV 80-aelod oedd y system fwyaf addas i Gynulliad Cenedlaethol gyda phwerau deddfwriaethol.”

Ychwanegodd Steve Brooks:

“Pe byddai’r argymhellion yma wedi cael eu dilyn drwodd, byddai Llafur wedi ennill 40 o’r 80 o seddi. Byddai pleidleiswyr wedi cael mwy o ddewis dros bwy sy’n eu cynrychioli yn lleol, a phwy sy’n eu llywodraethu’n genedlaethol.”

Wrth ymateb i’r ddadl rhwng llywodraeth y DU a Chymru ar ddiwygio etholiadol i’r Cynulliad, dywedodd Steve Brooks: “Mae system gyfrannol yn rhan o becyn datganoli ac wedi cael sêl bendith dau refferendwm. Mae sut yr ydym yn dewis ein gwleidyddion yn rhan sylfaenol o’n democratiaeth. Mae unrhyw newid i’r system bleidleisio yn gorfod cael ei ystyried yn ofalus, uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol pob ddydd. Mae angen deialog traws bleidiol go iawn gyda phobl Cymru.”