Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen cyfarfod yfory  i’w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu’n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg.

Yfory, bydd y Cyngor llawn yn trafod argymhelliad i gyfyngu addysg gyfrwng-Gymraeg chweched dosbarth i 3 safle yn unig drwy’r sir.

“Byddai terfynu’n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn debygol o fod yn anghyfreithlon ar sawl cyfri,” meddai llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis.

“Yn gyntaf, ni ellid gwneud hyn heb ymgynghoriad statudol llawn gan y byddai cam o’r fath yn newid natur yr ysgol. Pe na bai addysg Gymraeg ar gael yn y chweched dosbarth, byddai disgyblion iau hefyd yn llawer llai tebygol o ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ail, byddai argymhelliad y Cyngor yn terfynu addysg chweched dosbarth Cymraeg yn Llanfyllin er y byddai addysg chweched dosbarth Saesneg yn parhau. Dyna ragfarnu clir yn erbyn disgyblion Cymraeg eu hiaith.”

Mae’n mynd ymlaen i ddweud na fu ymchwil i’r posibiliad o “ddefnyddio technoleg gyfoes i wireddu addysgu aml-safle, sef fod athro mewn un safle yn addysgu’n gyfamserol disgyblion mewn safle arall, ac ni fu trafodaethau traws-sirol gyda Chynghorau fel Gwynedd, Dinbych a Wrecsam yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.”

“ Ar yr holl seiliau hyn, byddech yn agored i her gyfreithiol petaech yn penderfynu mabwysiadu argymhelliad i derfynu’n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Llanfyllin,” meddai’r ymgyrchydd.