Bethan Jenkins AC
Mae llefarydd Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Dreftadaeth a’r Iaith Gymraeg wedi gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru am ‘esboniad’ dros dorri grant i gylchgrawn llenyddol Cymraeg, Tu Chwith.

Mae Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru Gorllewin De Cymru  yn dweud yn ei llythyr at  Gadeirydd  y Cyngor fod nifer o bobl wedi cysylltu â hi “wedi’u siomi’n arw gan benderfyniad y Cyngor Llyfrau” i dorri grant y cylchgrawn llenyddol.

‘Gan mai hwn yw’r unig gylchgrawn i bobl ifanc, gan bobl ifanc yn y maes penodol yma, ac yn gymorth mawr wrth helpu pobl ifanc meistroli eu dawn,’ meddai.

Eisoes, mae Simon Brooks, un o sylfaenwyr y cylchgrawn Tu Chwith wedi dweud wrth Golwg360 bod dileu’r cymhorthdal yn benderfyniad “cywilyddus”.

‘Swm bach iawn’

Mae Bethan Jenkins AC  yn dweud ei bod ar ddeall fod y grant sydd wedi cael ei dorri yn swm o £6,000 “sydd yn swm bach iawn o’i gymharu â nifer o grantiau eraill sydd yn cael eu rhoi i fudiadau a grwpiau celfyddydol yng Nghymru.”

Mae’n gofyn i’r Cyngor esbonio pam eu bod wedi gwneud y penderfyniad yma, ac ar ba sail. Mae hefyd yn gofyn iddyn nhw ddanfon copi o’r esboniad am ddod a’r grant i ben a roddwyd i’r rheiny sy’n rhedeg Tu Chwith ar hyn o bryd.

Fe fydd yn gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru a ydyn  nhw wedi rhoi unrhyw gyngor i’r rhai sy’n rhedeg Tu Chwith o ran ceisio am grantiau eraill, neu amlinellu unrhyw awgrymiadau iddynt allu ail geisio am grant gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn y dyfodol.

Hyrwyddo gwaith awduron ifanc

Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru bod aelodau’r panel wedi trafod o ddifri y modd gorau o sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron newydd yn ogystal â sut i hybu eu gwaith ymysg darllenwyr.

“Yn sgil y penderfyniad (i atal grant Tu Chwith) fe gytunwyd i sefydlu cronfa ddatblygu gyda’r pwyslais ar hybu gwaith awduron ifanc gan drafod gyda chylchgronau eraill sut orau i roi cyfleoedd cyhoeddi iddynt yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau cyhoeddi aml-blatfform i gyrraedd to o ddarllenwyr newydd.

“Credwn yn gryf y bydd croeso cyffredinol i fwriad y Cyngor i sicrhau fod cyfleoedd cyhoeddi ar gael i awduron ifanc mewn dulliau amrywiol, gan gynnwys ar ffurf ddigidol. Mae darparu ar gyfer awduron a darllenwyr ifanc yn bwysig yng ngolwg y Cyngor.”