Aaron Ramsey Llun: fourfourtwo.com
Mae dros ddwy ran o dair o bobol Cymru yn credu y dylai peldroedwyr Cymru chwarae i Dîm Pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd, yn ôl arolwg diweddar.

Mae 69% o bobol Cymru yn credu y dylai chwaraewyr pêl-droed Cymru chwarae dros dîm GB yng Ngemau Olympaidd 2012, yn ôl ffigyrau arolwg barn YouGov, a gomisiynwyd gan raglen y Byd ar Bedwar.

Cafodd mil o bobol eu holi  am greu tîm pêl-droed unedig i Brydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain, a dim ond 10% o’r rhai a holwyd oedd yn erbyn gweld chwaraewyr Cymru yn ymuno â’r tîm.

Daw’r ffigyrau diweddaraf yn dipyn o syndod i nifer ar ôl i chwaraewyr Cymru sydd eisoes wedi dangos awydd i ymuno â’r tîm gael eu beirniadu’n chwyrn gan lawer o gefnogwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd Aaron Ramsey, Capten Cymru, a Gareth Bale, Chwaraewr y Flwyddyn Cymru, eu bod ill dau yn awyddus i ymuno â ‘Tîm GB’ ar gyfer twrnament pêl-droed y Gemau Olympaidd.

Mae’r cyhoeddiad gan y ddau wedi cael ei feirniadu’n hallt gan nifer o gefnogwyr, gyda llawer yn eu cyhuddo o fod yn “hunanol” am gymryd cam a allai, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gyfaddawdu annibyniaeth y tîm cenedlaethol.

Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach ar y Byd ar Bedwar heno, mewn rhaglen arbennig fydd yn trafod sefyllfa tîm pêl-droed Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Olympaidd, ac yn edrych yn ôl dros gêm fawr y penwythnos rhwng timau pêl-droed Abertawe a Manchester United.

Bydd y Byd ar Bedwar yn cael ei ddarlledu ar S4C heno, am 9.30pm.