Tywysog Charles
Mae cyrff llywodraethol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru wedi penderfynu uno, gan ddwyn ynghyd y ddwy Siarter Frenhinol hynaf a roddwyd i brifysgolion yng Nghymru.

Eisoes, mae Tywysog Cymru wedi cytuno i fod yn Noddwr Brenhinol i’r Brifysgol newydd a fydd yn cael ei greu yn sgil yr uno, ddylai ddigwydd erbyn 1 Awst, 2012.

Bydd y sefydliad unedig yn cael ei uno dan Siarter Frenhinol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r penderfyniad yn cael ei ddisgrifio gan y sefydliadau fel un “hanesyddol”. Mae’n cynnig cyfle i’r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol.

“Rwyf wrth fy modd y bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn llywyddu dros Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant fel ei Noddwr Brenhinol. Mae cael ei gefnogaeth yn anrhydedd ac yn fraint,” meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor.

‘Newid strategol’

“Ar yr adeg hanesyddol hon i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, mae Cyngor y Brifysgol yn cydnabod yr ymrwymiad mae Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi’i wneud wrth ddod yn Noddwr Brenhinol i ni,” meddai Dr Geoffrey Thomas, Cadeirydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

“Wrth i’r ddwy siarter hynaf yng Nghymru ddod at ei gilydd, edrycha’r Cyngor ymlaen at gefnogi newid strategol a fydd yn cyflawni er mwyn y genedl.”

Ychwanegodd Dr Gerry Lewis, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, “Rydym wrth ein boddau y bydd Ei Uchelder Brenhinol yn dod yn Noddwr i’r Brifysgol newydd.  Gobeithiwn y Brifysgol yn gwneud cyfraniadau mawr i economi a diwylliant Cymru yn y dyfodol.”