Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw’n ystyried marwolaeth dyn mewn bwyty Indiaidd yn Ninbych yn un amheus.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn 47 oed ym mwyty Asia yn y dref ddydd Gwener.

Roedd yr heddlu wedi dweud ddoe nad oedd esboniad ynglŷn â’r farwolaeth eto.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Sadwrn a does dim amheuaeth bellach ynglŷn â beth achosodd y farwolaeth.