Yr Wyddfa
Mae’r gwasanaethau brys wedi dweud fod dyn ddisgynnodd 50 troedfedd i lawr yr Wyddfa yn lwcus ei fod wedi osgoi syrthio ymhellach.
Dywedodd yr achubwyr ei fod wedi glanio ar ysgfell uwchben clogwyn mwyo faint, a bod 20 o achubwyr wedi bod yn rhan o’r ymdrech i’w gael oddi yno.
Dioddefodd y dyn 30 oed o Gaerwrangon anafiadau i’w gefn a’i belfis.
Roedd wedi bod yn cerdded ger Crib Goch ddydd Sadwrn pan syrthiodd.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd RAF cyn iddi nosi.