Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn farw mewn bwyty yn Ninbych.
Daethpwyd o hyd i gorff y dyn 47 oed ym mwyty Asia yn y dref nos Iau neu fore Gwener.
Dywedodd yr heddlu nad oedd esboniad ynglŷn â’r farwolaeth eto. Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 0845 607 1001 neu 101.