Nick Ramsay
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i awgrym gan y Blaid Lafur fod polisïau economaidd Llywodraeth San Steffan yn gwneud drwg i economi Cymru.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, y dylai’r Prif Weinidog, David Cameron, ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru wrth ymateb i’r argyfwng ariannol.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy er mwyn ceisio annog pobol yn ôl i’r gwaith, a fydd yn hanfodol er mwyn tyfu’r economi, meddai.

Ond mynnodd Ed Miliband fod dwylo gweinyddiaeth Carwyn Jones “wedi eu clymu” gan San Steffan.

“Mae’r Prif Weinidog yn cael ei ddal yn ôl,” meddai. “Mae ei ddwylo wedi eu clymu gan lywodraeth yn San Steffan sy’n gwneud pob math o benderfyniadau annoeth ynglŷn â’r economi.”

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar fusnes, yr Aelod Cynulliad Nick Ramsay, fod yr awgrym yn un chwerthinllyd.

“Mae’r Blaid Lafur yn ceisio symud y bai ar ôl camreoli economi Cymru dros gyfnod o 12 mlynedd mewn grym,” meddai.

“Mae gweinidogion y Blaid Lafur yng Nghymru wedi methu a defnyddio’r grymoedd sydd ganddyn nhw er mwyn cefnogi busnesau bach, annog buddsoddiad a chreu swyddi.

“Mae’r Gweinidog Menter Marcsaidd, Edwina Hart, wedi tindroi wrth ystyried cyflwyno parthau menter, wedi oedi cyn torri trethi ar fusnesau ac wedi methu a bwrw ymlaen â’r newidiadau hanfodol sydd eu hangen er mwyn hybu ein heconomi.

“Mae Llafur yn honni nad oes ganddyn nhw unrhyw rym dros economi Cymru ond mae’r pleidleiswyr yn gwybod nad yw hynny’n wir.

“Maen nhw’n gwneud dim a does ganddyn nhw ddim cynllun er mwyn hybu twf economaidd yng Nghymru.”