Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog, David Cameron, ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru wrth roi hwb i’r economi.

Wrth ymweld â ffatri Ford ym Mhen y Bont ar Ogwr dywedodd fod cefnogi diwydiant cynhyrchu’r wlad yn allweddol i’r adferiad economaidd.

Clodforodd Llywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod nhw wedi darparu nawdd er mwyn creu 4,000 o gyfleoedd i bobol ifanc gael hyfforddiant.

“Mae’n rhaid i ni wneud rhagor er mwyn annog twf yn yr economi, am nad yw’r rhagolygon economaidd yn edrych yn dda iawn ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae yna sawl peth sydd angen ac y dylid eu gwneud, gan gynnwys ysgogi cwmnïau i gyflogi gweithwyr newydd.

“Mae yna filiwn o weithwyr ifanc allan o waith, ond mae’r Prif Weinidog yn gorffwys ar ei rwyfau.”

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i helpu pobol ifanc yn ôl i’r gwaith na’r Glymblaid yn San Steffan.

“Mae Llywodraeth San Steffan wedi glynu’n rhy agos at eu cynllun gwreiddiol a does ganddyn nhw ddim dewis erbyn hyn,” meddai.

“Rydw i’n pryderu eu bod nhw wedi dechrau credu eu propaganda eu hunain.”

Serch hynny dywedodd Ed Miliband ei fod yn pryderu fod dwylo gweinyddiaeth Carwyn Jones “wedi eu clymu” gan San Steffan.

“Mae’r Prif Weinidog yn cael ei ddal yn ôl,” meddai. “Mae ei ddwylo wedi eu clymu gan lywodraeth yn San Steffan sy’n gwneud pob math o benderfyniadau annoeth ynglŷn â’r economi.”

Ychwanegodd fod y Blaid Lafur yn cytuno fod angen mynd i’r afael â’r diffyg ariannol ond na fyddai hynny’n gallu digwydd nes bod swyddi’n cael eu creu.

Tindroi

Er gwaethaf sylwadau Ed Miliband mae’r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dindroi wrth fynd i’r afael â’r economi.

Mae Plaid Cymru wedi eu cyhuddo o fethu a darparu unrhyw fanylion clir ynglŷn â phrosiectau cyfalafol newydd ac mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llafur o oedi cyn penderfynu cyflwyno parthau menter yng Nghymru.

Methodd y Llywodraeth a phasio ei chyllideb ddrafft yr wythnos hon oherwydd gwrthwynebiad gan y pleidiau eraill.

Dywedodd Ed Miliband y byddai yn rhaid i’r Prif Weinidog a’i gabinet benderfynu a oedden nhw am ddod i gytundeb â’r Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru.

“Mae gen i hyder llwyr y bydd Carwyn yn gwneud y penderfyniad cywir o blaid pobol Cymru,” meddai.