Carwyn Jones
Rhodri ab Owen o Positif Politics sy’n trafod prif bwc llosg yr wythnos ym Mae Caerdydd…

Bu sawl enghraifft yn y gorffennol lle na chafodd Llywodraeth Cymru ei ffordd ei hun mewn dadl ar brynhawn Mercher yn y Siambr, ac fel arfer nid yw hyn yn broblem rhy fawr iddynt. Serch hynny, ceir dau sialens sydd yn peri pryder i’r Llywodraeth. Un yw ceisio sirchau bod deddfwriaeth yn cael ei basio trwy’r Senedd heb gyfaddawdu gyda’r gwrthbleidiau yn ormodol  (does yr un darn o ddeddfwriaeth wedi ei osod ger bron y Cynulliad eto ac felly nid oes modd dweud pa mor hawdd fyddai sicrhau hyn). Yr ail sialens yw sicrhau y bydd y gyllideb yn pasio a dyna oedd stori fawr yr wythnos hon. Gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol y gyllideb ddrafft. Roedd hynny i’w ddigswyl, o ystyried fod y Cynulliad wedi ei rhannu’n cyfartal, â 30 aelod ar feinciau’r Llywodraeth a 30 ar feinciau’r wrthblaid. Ond roedd hi’n dipyn o stori; methiant cyntaf difrifol llywodraeth Carwyn Jones ers mis Mai. Ond mae’r cyfnod mwyaf diddorol i ddod.

Mae’r gyllideb nawr yn pasio i bwyllgorau scrwtani y Cynulliad a fydd yn ei hystyried ac o bosib yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Cyllid. Dyma’n aml yw’r cyfnod allweddol ar gyfer menbwn allanol a lobio. Mae fel arfer yn amser ffrantic a fe fydd yna bwysau ychwanegol eleni yn dilyn methiant yr wythnos hon. Wedi proesesu’r holl wybodaeth bydd y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn gysylltiedig gyda’r ddadl terfynol ar y gyllideb ar y 6ed o Ragfyr.

Ar yr un pryd, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod gyda’r pleidiau eraill er mwyn gweld os oes modd cyfaddawdu. Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn digwydd ers sawl wythnos ond mae’n debyg bydd unrhyw drafodaethau pellach yn cael eu cynnal ar fwy o frys. Ni fydd y Blaid Lafur yn debygol o ystyried cynigion y Ceidwadwyr o ddifrif, ond bydd gan Carwyn fwy o ddiddordeb i glywed beth sydd gan Blaid Cymru i’w ddweud a beth maent yn gofyn amdano. Mae’n debyg y bydd ganddo hyd yn oed mwy o ddiddordeb yn yr hyn hoffai’r Democratiaid Rhyddfrydol ei dderbyn gan y blaid Lafur am eu cefnogaeth. Gellir gweld manteision gwleidyddol sylweddol i’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn cytundeb o’r fath ac efallai dyma yw’r opsiwn mwyaf tebygol, yn enwedig wrth ystyried brwdfrydedd Kirsty Williams a Carwyn Jones am gynyddu gwariant ar addysg.

Wrth gwrs does dim byd yn bendant ar hyn o bryd a gall yr holl ddarogan hyn fod yn anghywir – ond mae’n  anhebygol y bydd y gwrthbleidiau i gyd yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd, gan drechu’r gyllideb y mis nesaf a dymchwel y llywodraeth o ganlyniad. Yr unig bryd ystyriwyd hyn o ddifrif oedd yn 2006 pan drechwyd y gyllideb ddrafft gan ddefnyddio’r un arthimatic, ond ar yr unfed awr ar ddeg fe wnaeth Plaid Cymru cytundeb gyda Llafur gan sicrhau bod y gyllideb yn cael ei basio. Dw i’n disgwyl i’r un peth ddigwydd eto.

A fyddai cytundeb o’r fath yn arwain at gytundeb clymbleidiol mewn amser? Wel, mae hynny’n fater arall.