Dr Simon Brooks
Mae cylchgrawn llenyddol Cymraeg i bobol ifanc wedi colli grant blynyddol o £6,000.

 Dywedodd un o sylfaenwyr y cylchgrawn Tu Chwith,  wrth Golwg360 bod dileu’r cymhorthdal yn benderfyniad “cywilyddus”.

Ond yn ôl y Cyngor Llyfrau, sy’n dosbarthu grantiau i gylchgronau Cymraeg, roedd gwerthiant isel Tu Chwith dros y blynyddoedd diwethaf wedi eu perswadio i dynnu’r plwg ar y gefnogaeth ariannol.

“Yn dilyn cryn drafodaeth, penderfynwyd atal y grant i’r cylchgrawn Tu Chwith,” meddai’r Cyngor Llyfrau mewn datganiad heddiw.

“Er bod y cylchgrawn wedi gwneud gwaith pwysig yn meithrin ysgrifenwyr ifainc roedd y gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant yn ystod y blynyddoedd diweddar yn arwydd clir nad oedd y cylchgrawn bellach yn bodloni’r gynulleidfa darged ac felly’n syrthio’n fyr o’i nod.”

 Ond yn ôl Dr Simon Brooks, un o sylfaenwyr Tu Chwith nôl yn 1993, mae’r cylchgrawn yn gwneud gwaith “pwysig” wrth hyrwyddo llenyddiaeth, a rhoi llwyfan i lenyddiaeth, ymhlith yr ifanc – ac nad yw Cyngor Llyfrau Cymru yn gwerthfawrogi hyn.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i fi eu bod nhw’n gwrthod cefnogi cylchgrawn sy’n gwneud cyfraniad mor fawr, am gyn lleied o gost.”

Yn ôl datganiad y Cyngor Llyfrau a gyhoeddwyd heddiw, fe fydd cylchgrawn barddoniaeth Barddas yn dal i dderbyn grant blynyddol o £24,000, a chylchgrawn llenyddol Taliesin yn derbyn grant o £28,500 y flwyddyn.

Roedd Simon Brooks hefyd yn siomedig nad oedd gwaith caled y tîm cynhyrchu yn cael ei ystyried yn y penderfyniad ychwaith, meddai.

“Mae’r cylchgrawn wedi cael ei redeg yn wirfoddol gan bobol ifanc ar hyd y blynddoedd.

“Mae’n enghraifft prin iawn o bobol ifanc yn creu eu diwylliant eu hunain.

 “Mae’n annheg iawn mai pobol sy’n eistedd rownd bwrdd yn Aberystwyth sy’n cael gwneud y penderfyniadau hyn am beth sy’n briodol.”

Yn ôl Simon Brooks, dydi llais y to ifanc, sef y rhai sy’n elwa o Tu Chwith, ddim yn cael ei glywed gan y bobol sy’n penderfynu ar dynged y cylchgrawn.

“Mae popeth sy’n cael ei wneud fan hyn yng Nghymru, heblaw Tu Chwith, yn cael eu rhedeg gan bobol sydd dros eu 30au,” ychwanegodd.

Nawdd i’r wasg Gymraeg

 Daeth y newyddion gan y Cyngor Llyfrau’r bore yma, wrth iddyn nhw gyhoeddi pwy oedd wedi bod yn llwyddiannus gyda’u ceisiadau ar gyfer grantiau gwerth cyfanswm o £360,000 ar gyfer 2011-2015.

Bydd 16 o gwmnïau nawr yn rhannu’r grant yma rhyngddyn nhw, wedi i’r Cyngor llyfrau wrthod pedwar cais, oedd yn cynnwys un gan Tu Chwith ac un arall gan y cylchgrawn barddonol newydd, Y Glec.

Dyma’r cyhoeddiadau llwyddiannus:

  Rhifynnau mewn blwyddyn Grant Blynyddol
     
Y Cymro 52 £  18,000
Barn 10 £  80,000
Golwg 50 £  73,000
     
Llenyddiaeth a Chrefydd    
Barddas 4 £  24,000
Cristion 6 £    4,800
Gair y Dydd 4 £    2,400
Taliesin 3 £  28,500
Y Traethodydd 4 £    8,000
     
Hamdden:  Plant    
Wcw 12 £  36,000
Cip 10 £  26,000
     
Hamdden:  Oedolion    
Y Casglwr 3 £    1,500
Fferm a Thyddyn 2 £    2,000
Lingo Newydd 6 £  18,000
Llafar Gwlad 4 £    7,000
Y Selar 4 £  12,000
Y Wawr 4 £  10,000
     
Cronfa grantiau datblygu   £    8,800
    £360,000