Mae’r cwmni gofal sydd wedi cynnig cynlluniau ar gyfer canolfan dementia newydd yng Nghaernarfon wedi addo darparu gofal “o’r radd flaenaf,” a hynny yn y Gymraeg.

Cafodd yr addewid ei wneud yn ystod cyfarfod â chynghorwyr lleol i drafod gweledigaeth cwmni Parc Pendine ar gyfer y ganolfan newydd, sy’n gobeithio cael ei hagor ar safle hen ysbyty gymunedol Bryn Seiont. Yn ôl Mario Kreft, perchennog Parc Pendine, mae sicrhau fod gofal ar gael i bobol yn eu mamiaith yn ganolog i’w cynlluniau.

Os bydd cynghorwyr yn rhoi eu caniatad i’r cynlluniau pan fydd y cais yn cael ei wneud ar 28 Tachwedd, mae’r cwmni’n dweud y bydd y prosiect gwerth £5 miliwn yn creu 100 o swyddi newydd yn y dre.

Cafodd pobol leol hefyd eu gwahodd i weld y cynlluniau yn ystod y prynhawn agored yn y Galeri, Caernarfon.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gofal Bryn Seiont wedi cael eu seilio ar gartref gofal llwyddiannus y cwmni yn Wrecsam, Bodlondeb.

Cafodd cartref gofal Bodlondeb ei agor gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Tachwedd 2010.

Dementia ar gynnydd

Mae Parc Pendine wedi bod yn cydweithio â’r Athro Bob Woods, un o arbenigwyr dementia mwyaf blaenllaw Prydain, wrth greu’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gofal Bryn Seiont.

Yn ôl ymchwil diweddar, mae disgwyl i nifer y bobol sy’n dioddef o dementia godi 55% o fewn yr 20 mlynedd nesaf, ac mae’r cwmni yn gobeithio bydd Canolfan Gofal Bryn Seiont yn help wrth fynd i’r afael â’r cyflwr.

“Mae’r ystadegau i gyd yn awrgymu bod dementia yn mynd i gynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf,” meddai perchennog Parc Pendine, Mario Kreft. “Yn ogystal â chreu lle ychwanegol ar gyfer hyn, ein amcan ni yw darparu gofal sy’n gwella safon bywyd pobol, ac yn eu trin nhw ag urddas a pharch.”

Ateb pryderon

Yn ôl Mario Kreft, mae sicrhau fod gofal ar gael i bobol yn eu mamiaith yn ganolog i’w cynlluniau i ddarparu “gwasanaeth o’r radd flaenaf.”

Dywedodd Mario Kreft neithiwr ei fod yn gobeithio fod y diwrnod “wedi ateb unrhyw bryderon oedd gan bobol” am y cynllun.

“Ry’n ni eisiau darparu gwasanaethau dementia o’r radd flaenaf, felly mae’n gwneud synnwyr ein bod ni’n gorfod darparu gwasanaeth yn yr iaith y mae pobol yn dymuno’i siarad.”

Yn ôl Mario Kreft, mae’r cwmni yn ceisio llenwi bwlch yn y ddarpariaeth gofal sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Ry’n ni’n ceisio edrych ar lle mae’r bylchau yn y gwasanaethau,” meddai. “Yn arbennig, ry’n ni’n edrych ar ofal i’r rhai sydd â dibyniaeth uchel, a fyddai bron yn sicr angen gofal dros gyfnod o 24 awr.

“Ry’n ni hefyd yn edrych ar wasanaeth gofal dydd i bobol, gan obeithio datblygu gwasanaeth sy’n ymestyn allan i’r gymuned, gan ddefnyddio Bryn Seiont fel y canolbwynt.”

Un o’r rhai a fu yn y diwrnod agored ddoe oedd y Cynghorydd Huw Edwards, sy’n pryderu ynglŷn â’r ddarpariaeth Gymraeg yn y cynlluniau.

“Rydyn ni nawr yn ymwybodol bod dementia ar gynnydd, ac mae angen i ni sicrhau fod y ddarpariaeth yma, a’r iaith Gymraeg, yn cael eu gwneud yn flaenoriaethau yn y cyd-destun hwn.”