Mae cynghorydd ym Mhowys wedi rhybuddio bod y Welsh Not ar fin dychwelyd i’r system addysg yn y sir.

Yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Powys, Aled Davies, mae’r cynnig i dynnu addysg cyfrwng Cymraeg o Ysgol Uwchradd Llanidloes yn “warthus”.

Daw’r cynnig yn rhan o becyn o gynlluniau i ad-drefnu addysg o fewn y sir, a fyddai’n gweld  nifer yr ysgolion sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir yn cael ei dorri o saith i bump.

Mae 13 o ysgolion uwchradd yn y sir ar hyn o bryd, ond fe fyddai’r cynigion yma yn golygu mai ychydig dros draean o’r rheiny fyddai’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion y sir.

“Mae’r penderfyniad yma’n warthus,” meddai Aled Davies. “Mae fel gosod arwydd y Welsh Not am wddf Ysgol Uwchradd Llanidloes.”

Yn ôl y cynghorydd, fe fyddai torri darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg dwy o ysgolion uwchradd y sir – Llanidloes a’r Trallwng – yn “ddechrau’r diwedd i addysg ddwyieithog” y sir.

“Mae’n rhaid i ni barhau â’r frwydr i’n plant ni gael y cyfle i gael addysg yn eu mamiaith yn eu hysgol uwchradd leol,” meddai Aled Davies.

Mewn cyfarfod yn ysgol Trefeglwys neithiwr, anfonodd yr Aelod Seneddol Glyn Davies ddatganiad yn dweud fod “darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau Cyngor Sir Powys. Trwy dynnu addysg cyfrwng Cymraeg o Ysgol Uwchradd Llanidloes, fe fydd Cabinet y Cyngor wedi achosi ergyd anferth i’r iaith Gymraeg ym Mhowys, yn ogystal â thanseilio dyfodol yr ysgol.

“Fe fyddwn ni’n cydweithio gyda’n cynghorwyr Ceidwadol i bwyso ar y Cabinet i ystyried eto cyn bwrw mlaen a’r penderfyniad, a fydd yn gwneud y fath niwed i’r Iaith Gymraeg a’r amgylchedd.”

Cyfle i Gryfhau’r Gymraeg?

Ond yn ôl yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, y cynghorydd Stephen Hayes, mae’r newidiadau’n cael eu gwneud “oherwydd  yr angen i wella dewis a chysondeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg Powys,” er iddo gyfaddef hefyd y byddai arbedion i’w gwneud yn sgil y newid.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth Golwg 360 na fyddai’r newidiadau yma yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg.

“Amcan y cynllun yma yw torri lawr ar  nifer y canolfannau sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg, ond gwella safon y canolfannau sydd yn ei gynnig.”

Yn ôl y llefarydd, mae’r saith ysgol uwchradd sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ar hyn o bryd yn anghyson iawn eu safon. Byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn flaenoriaeth yn y pum ysgol sy’n weddill.

Ond fe ddatgelodd mai dim ond tair o’r rheiny fyddai’n darparu addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg – sef ysgolion uwchradd Caereinion, Llanfair-ym-Muallt, a Bro Ddyfi.

Ond gyda’r cynllun newydd, fe fyddai gofyn i’r tair ysgol honno sicrhau bod o leia’ 80% o’u pynciau lefel A yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg, meddai’r llefarydd.

“Fe fyddwn ni yn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgolion hynny sydd ar ôl,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360, ond cyfaddefodd y byddai’r newid, os yw’n cael ei dderbyn gan y Cabinet, yn golygu y byddai “rhai disgyblion yn gorfod teithio ymhellach i gael eu haddysg.”

Dywedodd y llefarydd nad oedd gan Bowys “ddigon o ddysgwyr Cymraeg i gyfiawnhau darparu addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol uwchradd ar draws y sir.”

Cyflwynwyd y cynigion i benaethiaid ysgolion uwchradd, cadeiryddion cyrff llywodraethu, a chynghorwyr sirol mewn sesiynau briffio arbennig ddechrau’r mis.

Os yw’r cynigion hyn yn cael eu derbyn gan y Cabinet ddydd Mawrth nesaf, 22 Tachwedd, fe fydd y newidiadau i’r system addysg yn eu lle erbyn 2015 – ond mae disgwyl y gallai’r ysgolion hynny orffen derbyn disgyblion newydd i’r ffrwd Gymraeg mor gynnar â mis Medi 2013.