Cafodd hufenfa newydd gwerth £1.5 miliwn, a fydd yn creu hyd at 40 o swyddi, ei hagor yn Sir Gaerfyrddin heddiw.

Fe fydd hufenfa The Proper Welsh Milk Company yn Hendy-gwyn ar Daf yn prosesu hyd at 10 miliwn o litrau o lefrith y flwyddyn. Dyma’r hufenfa gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru am fwy na 75 mlynedd.

Mae’r hufenfa yn golygu y bydd yn llefrith yn teithio llai o filltiroedd, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Mae’r llefrith yn cael ei brynu gan 26 o ffermydd lleol ac fe fydd yn cyrraedd siopau yng Nghymru o fewn 24 awr o gael ei gasglu o’r  ffermydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, fu’n agor yr hufenfa bod hyn yn gam pwysig ymlaen i Sir Gaerfyrddin a’r diwydiant llaeth yng Nghymru.