John Griffiths
Bydd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn Sir y Fflint heddiw er mwyn agor darn newydd o Lwybr Arfordirol Cymru.

Mae’r darn newydd o lwybr yn ymestyn pedair milltir o Fflint ei hun i Ddociau Greenfield.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £2 filiwn y flwyddyn ers 2007 yn gwireddu’r cynllun o greu un llwybr di-dor, 870 milltir, o gwmpas arfordir Cymru.

Ond mae’r llwybr rhwng y Fflint a Dociau Greenfield hefyd wedi manteisio ar fuddsoddiad gan y Rhaglen Gwella Mynediad i’r Arfordir, sydd wedi ariannu gwelliannau fel gosod giatiau newydd a gwella arwynebedd y llwybrau.

Mae buddsoddiad Ewrop a Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi cael help gan fusnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y Fflint, sydd wedi bod yn cefnogi’r ymgyrch yn y gred y bydd manteision lleol i’w gael i’r gwelliannau.

‘Cam yn agosach at y llwybr cyflawn’

Wrth drafod y llwybr cyn yr agoriad heddiw, dywedodd John Griffiths fod yr agoriad yn mynd â’r Llywodraeth gam yn agosach at agor llwybr arfordirol cyflawn i Gymru erbyn 5 Mai 2012.

“Mae llwybr arfordirol Cymru eisoes yn denu cydnabyddiaeth ar draws y byd oherwydd ein harfordir prydferth, a mis diwethaf cafodd Cymru ei henwi gan y Lonely Planet fel yr ardal prydferthaf yn y byd i ymweld â hi yn 2012.”

Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd y llwybr arfordirol cyflawn yn denu 100,000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru bob blwyddyn.

“Mae hyn yn newyddion gwych i fusnesau arfordirol, yn newyddion gwych i’n diwydiant twristiaeth, ac yn newyddion gwych i economi Cymru drwyddi draw, yn enwedig yn y sefyllfa economaidd bresennol,” meddai John Griffiths.

Mae agoriad y llwybr yn Sir y Fflint hefyd wedi ei groesawu gan y cynghorydd lleol, a deiliad portffolio amgylcheddol y Cyngor, Tony Sharp.

Yn ôl y cynghorydd, bydd gan y llwybr newydd rôl bwysig wrth uno cymunedau.

“Mae’r prosiect yma yn ymwneud â llawer iawn mwy na dim ond y llwybr, mae e hefyd i wneud ag ail-gysylltu cymunedau â’r arfordir, a gwella safon yr amgylchfyd.”

Bydd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn tanio ffagl yn Nociau Greenfield am 12pm y prynhawn yma er mwyn nodi’r agoriad swyddogol.