Mae Llywodraeth Cymru wedi curo’u targedau ar gyfer torri lawr ar lefel eu hallyriadau carbon.

Mae’r Llywodraeth wedi torri 11% oddi ar lefel y carbon sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer ganddyn nhw, gan guro’u targed o 10%, a osodwyd yn y rhaglen 10:10.

Ym mis Rhagfyr 2009, fe gadarnhaodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i’r ymgyrch 10:10, oedd yn gofyn i sefydliadau dorri eu hallyriadau carbon mewn ardaloedd arbennig o 10%.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r toriadau yma wedi dod yn sgil nifer o newidiadau yn y modd mae eu hystad yn cael ei redeg.

Yn ystod 2010/11, daeth gwaith i ben mewn 18 o adeiladau Llywodraeth Cymru – penderfyniad, medd y Llywodraeth, a wnaeth gyfraniad mawr tuag at dorri eu hallyriadau carbon.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn dewud fod gwella ar eu Rhaglen Rheolaeth Carbon Isel, ar y cyd â’u hagenda ‘Ymdopi â Llai’, wedi arwain at ddefnyddio llawer llai o adnoddau.

Yn ôl y Llywodraeth mae defnyddio offer cynadledda fideo yn fwy cyson hefyd wedi torri lawr ar peth o’r angen i deithio.

Dywed y Llywodraeth fod y newiadau hyn wedi eu galluogi i arbed 1643 tunnell o garbon yn yr ardaloedd sydd wedi eu targedu gan y rhaglen 10:10. Mae’r cyfanswm yn gyfystyr a thua 39,400 o deithiau car o Gaerdydd i Lundain.

Yn ôl Carwyn Jones, mae angen i’r Llywodraeth “arwain y ffordd wrth daclo achosion a chanlyniadau newid hinsawdd.”

Dywed y Prif Weinidog fod y Llywodraeth yn bwriadu parhau â’u cynllun o dorri allyriadau carbon er bod yr ymgyrch 10:10 bellach wedi cyrraedd ei nod.

“Er bod yr ymgyrch 10:10 yn ffordd wych i ni sicrhau gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni dal wedi ymroi i dorri’n allyriadau o 3% o 2011 ymlaen, er mwyn gwireddu’n Strategaeth Newid Hinsawdd.

“Bydd y camau hyn yn cefnogi ein hymdrechion ehangach i sicrhau gostyngiad o 40% mewn allyriadau erbyn 2020, o’u cymharu â’r lefel yn 1990.”