Mae ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru wedi datgelu nad oes unrhyw gynlluniau ganddyn nhw i fynd at y Ceidwadwyr i drafod cytundeb ar y gyllideb.
Mae Golwg 360 wedi cael ar ddeall gan y ffynhonnell fod trafodaethau gyda Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar ddod i gytundeb ar y gyllideb wedi bod yn “gadarnhaol a phositif” hyd yn hyn, ond nad oes unrhyw gynlluniau i fynd i drafod â’r Ceidwadwyr.
Yn ôl y ffynhonnell, mae’r Llywodraeth yn credu bod y Ceidwadwyr Cymreig eisiau gwario arian Cymru yn gwneud yr un math o bethau â’r hyn sydd yn digwydd yn San Steffan, ac nad ydyn nhw’n hapus i weld hynny’n digwydd.
Ond pan siaradodd Golwg 360 â’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw, dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod cyhuddiad y Llywodraeth yn “nonsens llwyr”.
Dywedodd y llefarydd fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn “adeiladol trwy gydol y broses yma, ac mae ein drws yn parhau’n gwbwl agored.”
Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 fod Carwyn Jones wedi cwrdd ag Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, rhyw bythefnos yn ôl – ond nad oes dim wedi dod o hynny.
“Hyd yn hyn, dim ond unwaith mae’r Llywodraeth wedi dod i drafod â ni. Mae beirniadaeth fel hyn ganddyn nhw yn hynod o siomedig – er nad yw’n syndod – o ystyried y diffyg dychymyg y mae’r Llywodraeth wedi ei ddangos hyd yn hyn.”
Daw’r sylwadau gan y Llywodraeth ddiwrnod yn unig wedi iddyn nhw golli’r bleidlais ar y gyllideb ddrafft ar lawr Siambr y Senedd ddoe, wrth i’r gwrthbleidiau uno i’w wrthwynebu a chynnig gwelliannau.
“Dydi’r gyllideb yma ddim yn ateb y gofynion, nac yn ateb y sialensau sy’n wynebu Cymru. Fe fyddwn ni’n parhau i fod yn adeiladol ac i weithio tuag at gyllideb sydd â lles Cymru wrth ei wraidd.”
Trafodaethau eraill yn parhau
Ar ôl colli’r bleidlais ar y gyllideb ddrafft ddoe fe fu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn trafod gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
Mae disgwyl i’r trafodaethau hyn barhau wrth i Carwyn Jones geisio ennill cefnogaeth i’w gyllideb gan o leia’ un o’r gwrthbleidiau.
Dywedodd y ffynhonnell o fewn y Llywodraeth nad oedd gwerth “diystyru dim byd” tra bod y trafodaethau hyn yn parhau.