Mae Stonewall Cymru yn annog pobl ifanc lesbaidd, hoyw a deurywiol i “Siarad yn Agored” yr wythnos hon ar ôl lansio arolwg i geisio mynd i’r afael â bwlio homoffobig.

Arolwg ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (neu’n amau hynny) yw’r ymgyrch ‘Siarad yn Agored.’

Mae’r elusen yn gobeithio y bydd yr arolwg yn creu darlun cliriach o’r problemau sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru ac wedi gyrru fersiwn dwyieithog i bob ysgol uwchradd yn y wlad yr wythnos hon. Mae ar gael fel copi caled ac ar y we. Mae’r ymchwil  yn canolbwyntio ar holi pobl ifanc am eu profiadau yn yr ysgol neu goleg.

Bum mlynedd yn ôl fe wnaeth Stonewall yr astudiaeth fawr gyntaf am brofiadau pobl ifanc lesbaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn yr ysgol oedd yn dangos fod pobl ifanc hoyw a deurywiol  yn cael eu bwlio, a bod llawer o ysgolion yn gwneud dim am y peth.

Fe fydd yr arolwg hwn yn dangos sut mae’r sefyllfa erbyn hyn ac yn paratoi tystiolaeth a ffigyrau ar gyfer darn ymchwil newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2012.

Bydd modd i’r elusen weld os yw pethau wedi gwella, a beth sydd angen ei wneud o hyd.

‘Y sefyllfa yng Nghymru’

“Rydan ni wedi gwneud yn siŵr y bydd yr arolwg yn rhoi darlun i ni o’r sefyllfa yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Stonewall wrth Golwg360 cyn dweud eu bod eisiau ymateb llawer o bobl ifanc hoyw a deurywiol yng Nghymru i’r arolwg.

“Yn aml, rydan ni’n gallu cael darlun gwahanol iawn gan ddisgyblion i athrawon am y sefyllfa.

“Ambell dro mae athrawon yn agored am yr hyn maen nhw’n wneud i geisio atal bwlio homoffibig. Ond, weithiau bydd athrawon yn dweud wrthym nad oes disgyblion hoyw yn yr ysgol – ac rydan ni’n gwybod nad dyna’r achos. Mae pobl ifanc o’r un ysgolion yn cyfaddef clywed iaith homoffobaidd,” meddai.

Fe ddywedodd y llefarydd fod yr elusen hefyd yn cynnal trafodaethau gydag Estyn i geisio gwella’r sefyllfa mewn ysgolion.

“Rydan ni wedi darganfod fod iaith homoffobaidd yn cael ei ddefnyddio’n gynharach yn y system addysg – hyd yn oed mewn ysgolion cynradd,” meddai,  gan bwysleisio mai ymchwil “oed uwchradd” yw ‘Siarad yn Agored’.

Yr Arolwg

Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar brofiadau pobl ifanc yn yr ysgol neu goleg.

Mae’n gofyn a yw’r ysgol yn helpu, sut mae’n delio gyda bwlio, a beth ellid ei wneud yn well.

Hefyd mae cwestiynau am deimladau pobl ifanc, am y math o ysgol maen nhw’n mynychu, ac ym mha ardal maen nhw’n byw.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr Canolfan Ymchwil Teulu Prifysgol Caergrawnt, ar ran Stonewall.

Mae Stonewall yn fudiad sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).