Cheryl Gillan
Mae’r ffigyrau diweithdra heddiw yn tanlinellu’r angen i Lywodraethau Caerdydd a San Steffan gydweithio’n agosach, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Mynnodd fod Llywodraeth San Steffan yn ymladd eu gorau er mwyn adfer yr economi yng Nghymru, ond y byddai’r gwaith yn llawer mwy llwyddiannus petai’r ddwy lywodraeth yn cydweithio’n agosach.

Wrth drafod y ffigyrau diweithdra diweddaraf heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y ffigyrau “yn siomedig, ond dydyn nhw ddim yn syndod.

“Ond rydw i yn sicr y byddai sefyllfa’r Deyrnas Unedig yn waeth heb gynlluniau sefydlogi Llywodraeth San Steffan.”

Mewn datganiad oedd i fod i annog Llywodraeth Lafur Cymru i glosio’n agosach at weinidogion y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, dywedodd Cheryl Gillan mai un o broblemau mawr yr economi oedd methiannau’r Llywodraeth Lafur blaenorol.

“Rydyn ni’n gorfod delio nawr gyda methiannau’r gorffennol,” meddai, gan feio “diwylliant Llafur” o ddisgwyl cael pethau heb ddelio â’r gost.

Roedd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn dweud ei bod hi’n anochel fod economi Prydain yn mynd i gael ergyd oherwydd  argyfwng gwledydd yr ewro.

“Dydyn ni ddim yn gallu gwrthsefyll yr holl sialensiau sy’n wynebu gwledydd yr ewro,” meddai, ond mynnodd fod y Deyrnas Unedig yn y dwylo iawn wrth geisio taclo’r sialensiau hynny.

Dyna pam, meddai, ei bod yn croesawu gwell cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth San Steffan.

“Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i’n dwy Lywodraeth ni wneud gwahaniaeth,” meddai Cheryl Gillan.

“Trwy weithio’n agosach yn y meysydd lle mae ganddon ni gyfrifoldebau, gall gweinidogion yn Llundain a Chaerdydd symud polisiau yn eu blaen er mwyn cael mwy o bobol yn ôl yn y gwaith.”