Llyndy Isaf
Mae sêr y sgrîn fawr a’r teledu ynghyd â’r cyhoedd wedi bod yn cydweithio dros y saith mis diwethaf i godi £1m i brynu fferm 600 erw yn Eryri– a heddiw fe gyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yr ymgyrch wedi cyrraedd ei nod.

Roedd yr ymddiriedolaeth wedi gosod targed o £1 miliwn er mwyn medru prynu’r fferm 600 erw yn Eryri, er mwyn arbed cornel bwysig o Eryri rhag cael ei werthu.

Dyma apêl fwyaf yr ymddiriedolaeth i godi arian ar gyfer prosiect cefn gwlad ers dros 10 mlynedd, ac fe lwyddwyd i gyrraedd y targed o £1 miliwn mewn ychydig dros saith mis.

Arweinydd yr apêl i ddiogelu Fferm Llyndy Isaf ar lannau Llyn Dinas, ger Beddgelert, oedd yr actor Hollywood Cymreig, Matthew Rhys.

Yn ôl yr actor, i’r cyhoedd y mae’r diolch am gefnogi’r apêl.

Dywedodd: “Diolch yn fawr iawn i gymaint ohonoch chi a roddodd mor hael i  gefnogi ein hymgyrch i arbed Llyndy Isaf, y fferm arbennig iawn yma yng nghalon Eryri.”

Er i’r actor gael ei fagu yng Nghaerdydd, mae ganddo gysylltiadau agos iawn â’r ardal, gan fod ei deulu’n ffermio nid nepell o Lyndy Isaf ei hun.

Dywedodd fod cyrraedd y miliwn o bunnoedd yn golygu y gallai’r “Ymddiriedolaeth Genedlaethol ofalu am y fferm nawr, ac mae’n sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn ei mwynhau yn rhydd o fygythiad datblygiad masnachol.”

Fe fu nifer o Gymry Hollywood yng nghlwm wrth yr ymgyrch i godi arian, gan gynnwys Catherine Zeta Jones a Ioan Gruffydd, ac fe fu’r cyflwynwyr teledu bywyd gwyllt Iolo Williams a Kate Humble hefyd yn rhoi eu cefnogaeth.

Ond yn ôl Rhys Evans, o’r Ymddiriedoleth Genedlaethol, yr ymateb gan y cyhoedd sydd wedi rhoi’r hwb mwyaf iddyn nhw.

“Ry’n ni wedi ein syfrdanu gan yr ymateb gan y cyhoedd,” meddai, “mae’n anhygoel.

“Er ei bod hi’n gyfnod anodd, maen nhw wedi cefnogi’r apêl o ddifri, ac mae hynny’n dangos pa mor bwysig ydi diogelu mannau arbennig fel Llyndy Isaf i bobol.”

Mae Llyndy Isaf yn gorwedd yn Nant Gwynant, ger Beddgelert, ac mae’r ardal o bwysigrwydd amgylcheddol mawr yn Eryri, gyda nifer o rywogaethau bywyd gwyllt sydd dan fygythiad yn byw yno, fel glas y dorlan, y dyfrgi, a’r frân goesgoch.

Yn ôl Rhys Evans, y cam nesaf i’r ymddiriedolaeth fydd trafod sut i ddiogelu Llyndy Isaf i’r dyfodol.

“Nawr fe allwn ddechrau ymgynghori â’r gymuned leol a’r undebau ffermio i benderfynu ar y cam nesaf ar gyfer y rhan arbennig yma o Gymru,” meddai.