Mae Alcohol Concern Cymru yn galw am gynnwys calorïau ar ddiodydd alcohol, yn y gred y byddai hyn yn dylanwadu ar faint ry’n ni’n ei yfed.

Yn ôl yr elusen, sy’n ceisio taclo goryfed yng Nghymru, fe fyddai cynnwys mwy o wybodaeth am galoriau wrth labelu diodydd alcohol yn golygu bod pobol yn gallu gwneud penderfyniadau mwy synhwyrol.

“Mae gan alcohol lawer iawn o galorïau cudd,” medd rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell, “a gall goryfed arwain yn hawdd at ennill pwysau.”

Yn ôl ystadegau’r elusen, mae oedolion sy’n yfed yng Nghymru yn cael “10% o’u calorïau o alcohol, ond eto does gan 82% ohonyn nhw fawr ddim syniad faint o galorïau sydd mewn peint o gwrw neu wydraid o win.”

Mae peint arferol o gwrw yn cynnwys 182 o galorïau, tra bod gwydraid arferol o win yn cynnwys 182 o galorïau.

“Rydan ni am iddyn nhw wybod y ffeithiau,” meddai Andrew Misell, “fel y gallan nhw wneud dewisiadau deallus am alcohol fel rhan o ffordd fwy iachus o fyw.”

Yn ôl ymchwil gan Alcohol Concern Cymru, mae 48% o bobol Cymru yn cytuno â’r syniad o roi gwybodaeth am galorïau ar becynnau alcohol.

“Os ydyn ni am gynnal ffordd iach o fyw, rhaid mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth yma am galorïau mewn diodydd alcoholig,” meddai Andrew Misell.

Mae Alcohol Concern Cymru wedi darparu canllaw ar-lein i’r rhai sydd eisiau gwybod mwy am nifer y calorïau mewn diodydd alcoholig, ar eu gwefan: www.yfeddoethcymru.org.uk.