Mae Cyngor Sir Merthyr Tudful wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn mynd i’r afael â sefyllfa cyfieithu’r fersiwn Saesneg o’u gwefan – ar ôl i’w strategaeth wreiddiol o ddefnyddio Google Translate i gyfieithu’r safle brofi’n “anymarferol”.

Ddoe, fe wnaeth ymgyrchydd iaith feirniadu gwefan cyngor uniaith Saesneg Merthyr Tudful. Dywedodd Jamie  Bevan bod ymdrech Bwrdd yr Iaith i fynd i’r afael â’r sefyllfa yn “fethiant llwyr”.

Ers o leiaf pum mlynedd, mae Jamie Bevan, o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi clywed addewidion y byddai fersiwn Cymraeg o  wefan Cyngor Merthyr Tudful  ar gael.

Mae neges ar wefan newydd y Cyngor yn dweud y canlynol –

‘Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, er hynny, mae ein fersiwn Cymraeg o’n gwefan gorfforaethol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ac ni fydd ar gael nes yr hysbysir yn wahanol.

‘Mae dogfennau’r cyngor ar gael yn Gymraeg os gofynnir felly cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid os gwelwch yn dda, a fydd yn gallu eich cynorthwyo.’

‘Ansawdd y Gymraeg’

Mae Cyngor Sir Bwrdeistref Merthyr Tudful wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd wedi’i achosi yn sgil y diffyg  fersiwn Gymraeg o’r safle ar hyn o bryd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Cyngor wrth Golwg360 fod safle we Cymraeg y Cyngor “yn cael ei adeiladu.”

“Ein strategaeth wreiddiol oedd defnyddio Google Translate fel ffordd awtomatig o gyfieithu’r safle Cymraeg a hynny’n ddigost,” meddai llefarydd.

“Fodd bynnag, mae hyn wedi profi’n anymarferol – nid am resymau technegol ond oherwydd ansawdd y Gymraeg a ddarperir gan Google Translate.

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad busnes i dynnu’r fersiwn Google Translate i lawr. Rydym nawr yn mynd i’r afael â sefyllfa cyfieithu’r fersiwn Saesneg.”

Doedd dim awgrym pryd y bydd y wefan Gymraeg wedi’i chwblhau.

Bwrdd yr Iaith

Eisoes, mae Llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud wrth Golwg360 ddoe eu bod wedi cysylltu â Phrif Weithredwr y Cyngor yn syth i ofyn am eglurhad o’r sefyllfa  ar ôl sylwi fod gwefan newydd Cyngor Merthyr yn uniaith Saesneg.

“Rydym yn disgwyl ymateb ar hyn o bryd. Byddwn yn ystyried ymateb y Cyngor cyn penderfynu ar gamau pellach,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn gwbl annerbyniol. Mewn cyfnod pan fo nifer cynyddol o wasanaethau yn cael eu darparu ar-lein, mae’r digwyddiad diweddaraf hwn yn codi cwestiynau ynghylch ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.”

Stori: Malan Wilkinson