Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd swyddogion y Cyngor yn ymweld â busnesau sy’n cynnig gwlâu haul i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a’r rheoliadau newydd.

Fe all busnesau wynebu dirwy o hyd at £20,000 am beidio â chydymffurfio gyda rheoliadau gwlâu haul.

Mae’r Cyngor yn ceisio annog busnesau  sy’n darparu gwlâu haul i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda rheoliadau newydd a ddaeth i rym ar 31 Hydref 2011, meddai’r Cyngor.

Mae’r rheoliadau newydd gan Lywodraeth Cymru yn gorfodi busnesau i oruchwylio defnydd gwlâu haul gan gwsmeriaid er mwyn sicrhau defnydd mwy diogel.

Mae’r rheoliadau yn cryfhau’r gwaharddiad a ddaeth i rym ym mis Ebrill y flwyddyn hon sy’n gwahardd busnesau rhag caniatáu i bobl ifanc dan 18 oed i ddefnyddio gwlâu haul.

“Mae’r rheoliadau newydd yn rhai grymus iawn; ac yn ymateb i’r cynnydd yn yr achosion o ganser y croen melanoma ymysg pobl ifanc,” meddai Stephen Churchman, Uwch Arweinydd Portffolio Adnoddau Cyngor Gwynedd.

‘Goruchwylio’

“Bellach, bydd disgwyl i bob busnes sy’n cynnig defnydd gwely haul oruchwylio defnydd y gwlâu yn drylwyr, er mwyn sicrhau nad oes neb dan 18 oed yn eu defnyddio, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod y wybodaeth iechyd perthnasol yn cael ei arddangos a’i roi i’r defnyddwyr, ynghyd a chyngor ar ddefnydd diogel.

“Nid yw’n bosib mwyach i fusnesau arddangos gwybodaeth sy’n gwneud honiadau iechyd am ddefnydd gwlâu haul,” meddai Stephen Churchman.

Fe ddywedodd Jill Owen, perchennog Stiwdio Haul yng Nghaernarfon wrth Golwg360 eu bod yn croesawu’r rheolau newydd.

“Rydan ni’n cymryd photo ID gan bawb ac yn gwneud copi ohono. Rydan ni wedi gwneud hynny ers mis Ionawr eleni,” meddai.

Nid yw’r perchennog yn credu bod y ddirwy’n ormod. “Os oes ‘na reolau, mae’n rhaid cadw atyn nhw,” meddai.

Yn ôl Jill Owen, oedolion rhwng 40 a 50 blwydd oed sy’n defnyddio’r gwelyau haul yn Stiwdio Haul, Caernarfon fwyaf. Mae hefyd yn cael pobl yn eu 70au yn defnyddio’r gwelyau.