Alun Ffred Jones
Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn Cyllideb Ddrafft LLywodraeth Cymru wrth i’r pleidiau gwrdd ar lawr Siambr y Cynulliad yn nes ymlaen heddiw.

Dywed Plaid Cymru nad ydyn nhw’n credu bod yr hyn y mae’r Llywodraeth wedi ei gyflwyno yn ateb problemau Cymru.

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones, dydi’r gyllideb ddrafft “ddim yn mynd i’r afael efo’r her fawr ’ma sydd yn ein hwynebu ni ynglŷn â swyddi, colli swyddi a chyfleoedd am gyflogaeth.”

Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o arian y gyllideb yn cael ei fuddsoddi ar ddatblygu’r economi yng Nghymru.

“Rydan ni isio pecyn o fesurau brys i fynd i’r afael efo’r argyfwng economaidd rydan ni ynddo fo,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae hynny yn cynnwys cynllun cyfalaf cenedlaethol. Mae o yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â threthi busnes a’r goddefiad i fusnesau bach. Mae o’n ymwneud â helpu cwmniau yn y maes gweithgynhyrchu ac mae o’n ymwneud â hyfforddi pobl sydd yn colli swyddi a helpu cyflogwyr i gadw gweithwyr.”

Er ei fod yn derbyn bod llai o arian gan Lywodraeth Cymru eleni, mae’n credu y gallai’r Llywodraeth  fod yn gwneud mwy gyda’r hyn sydd ganddyn nhw.

“O ran blaenoriaethu dw i’n meddwl bod creu cynllun cyfalaf cenedlaethol – hyd yn oed os fysa fo o fewn yr adnoddau presennol – mi ddylen nhw fod wedi gwneud hynny beth bynnag.”

Plaid Cymru’n barod i gydweithio â Llafur?

Mae Plaid Cymru yn galw am fuddsoddi mwy o arian yn adran y Gweinidog Busnes, Edwina Hart – ond fe fyddai hynny’n golygu gorfod torri’n ôl mewn adrannau eraill.

Yn ôl Alun Ffred Jones, fe fyddai hyn yn rhywbeth y byddai Plaid Cymru yn barod i drafod â Llafur.

“Cefnogi gweithgynhyrchu – rydan ni yn credu mai dyna ddylai fod yn un o flaenoriaethau adran Edwina,” meddai, “mae’r manylion yma yn rhywbeth fyddech chi yn licio’u trafod efo’r Llywodraeth a dod i ryw fath o ddealltwriaeth.

“Dyma rydan ni yn credu sydd ei angen ar Gymru, ac mi fydden ni yn fodlon trafod gydag ewyllys da ac yn gadarnhaol i gyrraedd rhyw fath o ddealltwriaeth,” meddai.

Angen cefnogaeth

Bydd Llafur yn cwrdd â’r gwrthbleidiau ar lawr y Siambr i drafod y gyllideb ddrafft heddiw – ac mae disgwyl i’r gwrthbleidiau bleidleisio yn ei erbyn ar ôl iddyn nhw gyhoeddi datganiad ar y cyd ddydd Iau diwethaf yn galw am welliannau sylweddol i’r gyllideb ddrafft, ac yn gwrthwynebu’r dyraniad arian presennol.

Mae Plaid Cymru wedi galw am fwy o bwyslais ar yr economi, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am mwy o fuddsoddi mewn iechyd, a’r Demcratiaid Rhyddfrydol  eisiau mwy o arian ar gyfer addysg.

Fe fydd yn rhaid i’r Llywodraeth ddenu o leiaf un o’r pleidiau hyn i’w rhengoedd os ydyn nhw am basio’r gyllideb derfynnol yn y bleidlais ar 6 Rhagfyr, gan fod mwyafrif Llafur yn rhy fach i basio’r gyllideb eu hunain.

Stori: Anna Glyn