Mae’r heddlu ym Mhenybont ar Ogwr sy’n ymchwilio i farwolaeth sydyn gwraig 55 oed yn apelio am wybodaeth gan unrhywun a’i gwelodd cyn iddi farw.

Cafwyd hyd i gorff Diane Sparey yn ardd gefn ei chartref yn Nheras Rathbone, Caerau tua 11am ar fore Sadwrn, 12 Tachwedd.

Dyw ei marwolaeth ddim yn cael ei drin fel un amheus ac mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ran y crwner.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Morgan: “Roedd Diane Sparey yn gymeriad amlwg yn ardal Caerau a dylai unrhyw un a’i gwelodd rhwng 9am ar ddydd Gwener, 11 Tachwedd a 11am fore Sadwrn gyslltu â’r heddlu ym Mhenybont ar Ogwr.”

Y rhifau ffôn yw 101 neu Taclo’r Racle ar 0800 555 111.