Mae mudiad sy’n ceisio taclo alcoholiaeth yng Nghymru yn gofidio bod  nifer y bobol sy’n yfed yn y cartref yn cuddio gwir lefel y broblem yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae 46% o yfwyr Cymru yn yfed adref bellach, gan ei bod hi’n rhatach na mynd i’r dafarn leol.

Ond mae Alcohol Concern Cymru yn gofyn beth yw gwir gost hynny, wrth iddyn nhw lansio’u Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol heddiw.

Yn ôl Alcohol Concern Cymru, mae yfed adref yn gallu bod yr un mor niweidiol i bobol, os nad yn waeth, na gor-yfed pan fydd rhywun allan ar nos Sadwrn.

Mae’r elusen yn poeni bod yfed adref yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i bobol reoli eu harferion yfed, gan nad yw’r mesuriadau yn cael eu gwneud fel y maen nhw yn y dafarn, ac felly mae’n haws camgymryd faint o alcohol y mae unigolyn yn ei yfed mewn noson adref.

Yn ôl rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell, mae’r ymchwil “yn awgrymu bod pobol sy’n yfed gwirodydd adref yn arllwys mesur o 38ml i’w hunain ar gyfartaledd, ymhell dros y mesur sengl traddodiadol o 25ml rydym ni’n eu prynu wrth y bar.

“Yn yr un modd, pan ofynnwyd i bobol arllwys un uned o win i wydryn gwin mawr arllwysodd pobol ddwyaith gymaint i mewn.

“Gall yr unedau ychwanegol hyn wneud cyfanswm eithaf mawr mewn wythnos, ond yn aml, dydyn ni ddim yn sylweddoli faint yn union rydyn ni’n ei yfed adref.”

Mae Andrew Misell yn credu bod y mesuriadau anghyson yma’n cuddio problem llawer mwy dwys na sy’n cael ei gydnabod ar hyn o bryd.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol John Moores, Lerpwl, mae gwahaniaeth o “430 miliwn o unedau’r wythnos rhwng faint yr ydym yn dweud mewn arolygon ein bod ni yn ei yfed, a faint o alcohol a werthir yn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r ystadegau hynny’n golygu bod dwy filiwn o boteli o win yn cael eu yfed bob wythnos yng Nghymru.

“Gallai yfed mwy na’r canllawiau yn rheolaidd achosi niwed hirdymor i’r corff, gan gynnwys niwed i’r afu, pwysedd gwaed uchel a wlserau’r stumog, ac mae cysylltiad rhwng goryfed â rhai mathau o ganser,” meddai Andrew Misell.

Mae’r farchnad ar gyfer prynu diodydd i’w yfed adref wedi codi 17% yn y Deyrnas Unedig ers 2006, ac mae disgwyl y bydd y farchnad werth £13.6 biliwn erbyn diwedd 2011.

“Efallai fod yfed gartref er mwyn arbed arian i’w weld yn syniad da, ond rhaid ystyried y gost gudd i’n hiechyd,” meddai Andrew Misell.

Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, mae Alcohol Condern Cymru yn ceisio herio’r diwydiant diodydd i newid eu harferion marchnata a phrisio, ac yn ceisio tynnu sylw pobol at y niwed y gall alcohol ei gael.

Mae mwy o wybodaeth am yr elusen, yr ymgyrch, ac effeithiau alcohol, i gael ar  wefan Alcohol Concern Cymru: www.yfeddoethcymru.org.uk; neu ar wefan yr ymgyrch: http://bit.ly/u9AglK.