Mae galw ar Lywodraeth Cymru heddiw i wneud mwy i warchod pobol hŷn rhag cael eu camdrin.

Mae Age Cymru wedi lansio siarter er mwyn tynnu mwy o sylw at  nifer y bobol hŷn sy’n cael eu camdrin yng Nghymru, ac er mwyn dwyn perswad ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddf newydd er mwyn gorfodi awdurdodau cyhoeddus i ymchwilio i honiadau neu amheuon o gamdrin.

Yn ôl Victoria Lloyd, cyfarwyddwr Rhaglen Ddatblygu a Dylanwadu Age Cymru, does “dim dyletswydd cyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus, fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a’r heddlu, i ymchwilio lle mae pryder bod oedolion neu bobol fregus dan fygythiad o gael eu camdrin.

“Rydyn ni’n pryderu’n fawr fod y diffyg dyletswydd cyfreithiol yma yn ei gwneud hi’n anodd i awdurdodau lleol, sydd i fod i arwain wrth warchod oedolion, i gasglu gwybodaeth a derbyn cydweithrediad pob aelod sydd ynghlwm â’r achos – ac mae hyn yn arwain at oedi diangen wrth ddiogelu dioddefwyr a mynd i’r afael â’r camdrin.

“Gyda tua 39,000 o bobol hŷn yng Nghymru yn dioddef camdriniaeth yn eu cartrefi eu hunain, mae angen gweithredu ar frys,” meddai Victoria Lloyd.

“Dyma pam fod Age Cymru yn teimlo y byddai cyflwyno dyletswydd cyfreithiol i ymchwilio i achosion honedig o gamdrin yn gam sylweddol ymlaen wrth atal camdriniaeth pobol hŷn yng Nghymru unwaith ac am byth.”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau wrth Golwg 360 fod cynlluniau ar waith i gyflwyno deddf a fyddai’n cynnwys rhoi dyletswydd cyfreithiol ar gynghorau i ymchwilio i achosion o gamdrin fel hyn.

“Fe fyddwn ni’n llunio’r ddeddf fel rhan o fesur ehangach yn y flwyddyn nesa’,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360.

Cytuno â deddfu

Mae’r ymgyrch ‘Rule Out Abuse’ wedi cael ei ddatgblygu ar sail gwaith ymchwil a wnaed gan Brosiect Camdrin Pobol Hŷn Age Cymru, ac wrth ymgynghori ag arbenigwyr gwarchod oedolion.

Yn ôl Age Cymru, mae yna gonsensws ymlith y proffesiwn fod angen cyfreithiau cryfach i helpu diogelu pobol hŷn yng Nghymru rhag cael eu camdrin.

Mae Martin Semple, Cyfarwyddwr Cysylltiol Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn dweud fod y Coleg yn “croesawu’r ymgyrch yma i dynnu sylw at achosion o gamdrin yn erbyn oedolion bregus.

“Mae’r Coleg hefyd yn croesawu’r cyfle i greu deddf newydd a fydd yn gwneud y cyngor ar gyfer staff sy’n gofalu am ac yn gwiethio gyda oedolion bregus yn fwy clir.”

Yn ôl Age Cymru, mae camdrin pobol hŷn yn gallu amrywio o gamdrin corfforol, i gamdrin ariannol neu emosiynnol, i gamdrin rhywiol ac esgeulustod.

Mae achosion o gamdrin o’r math yma wedi cael eu darganfod yn y cartref, mewn cartrefi gofal, ysbytai, canolfanau dydd, ac yn y gymuned – ac mae’r achosion fel arfer yn ymwneud â phobol sydd â chyfrifoldeb dros y dioddefwyr, yn ôl Age Cymru.