Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gerddwr farw ar ôl cael ei daro gan gar tu allan i dafarn yn Abertawe.

Roedd Ffordd Port Tennant ar gau am bump awr ar ôl y digwyddiad tu allan i dafarn yr Union tua 7.35pm nos Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 31 oed wedi ei gludo i Ysbyty Treforys ond ei fod wedi marw’n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad rhwng car Ford Fiesta a dyn lleol 31 oed tua allan i dafarn yr Union yn Ffordd Port Tennant.

“O ganlyniad cafodd dyn anafiadau difrifol a’i gludo i Ysbyty Treforys lle bu farw’n ddiweddarach.

“Mae dyn 26 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac yn helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau yng ngorsaf yr heddlu Abertawe.”

Dylai unrhywun sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 01656 869332 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.