Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru yn addo buddsoddi £3.6 biliwn mewn addysg uwch yn ystod tymor y Cynulliad presennol, yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews.

Heddiw, fe ddatgelodd Leighton Andrews sut y byddai arian Llywodraeth Bae Caerdydd yn cael ei wario ym maes addysg uwch – gyda thraean o’r arian  yn cael ei wario ar gyfraniadau tuag at gost llawn ffioedd myfyrwyr.

Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru yn bwriadu codi’r ffi uchaf o £9,000 y flwyddyn o fis Medi 2012 ymlaen.

Ond mae’r Llwyodraeth wedi addo maid dim ond  £3,465 y flwyddyn y bydd yn rhaid i fyfyrwyr Cymru ei dalu  o’u pocedi eu hunain – tra bod y Llywodraeth yn talu’r gweddill.

Bydd yr addewid, a oedd yn maniffesto Llafur, yn costi £1.044 biliwn i’r Llywodraeth dros y bum mlynedd nesaf.

Fe ddatgelodd Leighton Andrews hefyd y byddai’r Llywodraeth yn cyfrannu £1.85 biliwn at gost benthyciadau myfyrwyr ar gyfer talu ffioedd a chostau byw – a £777 miliwn ar grantiau cynhaliaeth.

‘Sefyll fyny dros ein myfyrwyr’

Daw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg ar Ddiwrnod Cenedlaethol Cyllid Myfyrwyr Cymru a Lloegr, a dywedodd mai ei “neges i fyfyrwyr sy’n ystyried symud ymlaen i addysg uwch yw, os ydych chi’n arfer byw yng Nghymru ac rydych chi’n mynd i’r brifysgol yn y flwyddyn academaidd nesaf, fyddwch chi ddim gwaeth na phetai chi wedi mynd i’r brifysgol eleni.

“Mae’n holl bwysig ein bod ni’n sefyll fyny dros ein myfyrwyr ac yn eu helpu lle bynnag allwn ni – dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno’r system mwyaf teg o gyllido myfyrwyr i ni ei greu erioed.

“Dydyn ni ddim yn cefnogi’r gost llawn, nac yn agos at gost llawn y ffioedd ar gyfer addysg uwch. Dydyn ni hefyd ddim yn credu y dylai addysg uwch gael ei drefnu ar sail y farchnad.

“Rydyn ni’n gwarchod yr egwyddor y dylai’r waldwriaeth ariannu addysg uwch a chynnal y cyfleon i bawb. Dyma bolisi sydd wedi ei greu yng Nghymru, sy’n dangos manteisio datganoli.”

Mae’r Athro John Hughes, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“O ystyried y gefnogaeth i’r pecyn ariannol gan Lywodraeth Cymru does dim un rheswm da pam y dylai’r rheiny sy’n gadael yr ysgol, neu oedolion sy’n dymuno cael addysg, gael eu hatal rhag gwneud cais i fynd i brifysgol y flwyddyn nesaf oherwydd diffyg cyllid.”

‘Croesawu’

Mae UCM Cymru’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal myfyrwyr o Gymru, ble bynnag y byddant yn astudio yn y DU.

Yn ol yr undeb, mae’r polisi yn arwydd clir o’r gwahaniaeth rhwng y gynhaliaeth sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac addysg uwch gyhoeddus gan Lywodraeth Bae Caerdydd o gymharu â San Steffan.

Dywedodd Luke Young, Llywydd UCM Cymru: “Rydym yn croesawu ymrywmiad parhaus Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr Cymreig gyda’r amrediad o fenthyciadau, grantiau a bwrseriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru, i’w helpu gyda chostau byw ac astudio.  ‘Rydym wedi bod yn glir yn ein safbwynt fod gan fyfyrwyr yr hawl i addysg uwch a chael eu cyllido’n ddigonol yn ystod eu hamser yn y brifysgol.

“Mae’n newyddion da i fyfyrwyr sy’n wreiddiol o Gymru fod pecyn cynhaliaeth Llywodraeth Cymru yn llawer mwy hael na’r hyn mae Lywodraeth San Steffan yn ei gynnig.

“Nawr mae’n hanfodol bwysig fod y cyllid a’r dewisiadau cynhaliaeth sydd ar gael yn cael eu cyfathrebu.  Y peth gwaethaf a all ddigwydd yw fod pobl yn cael eu darbwyllo rhag mynd i mewn i addysg uwch oherywdd diffyg dealltwriaeth ynglŷn â’r system.

“Rydym eisiau i bawb sydd â’r ddawn a’r uchelgais i allu cael mynediad i addysg uwch.  Mae system gref o gynhaliaeth i fyfyrwyr yn help i gyflwani hynny.”