Peter Hain
Mae ffrae wleidyddol wedi codi ynglŷn â’r posibilrwydd o newid y ffordd y mae aelodau’r Cynulliad yn cael eu hethol.

Os bydd Senedd San Steffan yn cyhoeddi unrhyw fwriad i gwtogi ar etholaethau aelodau’r Cynulliad bydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dweud yn bendant y byddan nhw’n gwrthwynebu’r fath newid.

Fe allai nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru gael ei gwtogi o 40 i 30 ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.  Yr ofn ydi y bydd nifer etholaethau Aelodau’r Cynulliad hefyd yn cael eu gostwng i 30 er mwyn cyfateb i’r rhai seneddol newydd.

“Mae Llafur Cymru’n unedig ar y mater yma,” meddai datganiad ar y cyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Cymreig yr Wrthblaid, Peter Hain.

Cadarnhaodd Peter Hain hyn wrth gael ei gyfweld gan Vaughan Roderick ar Radio Cymru bore ma.

“Ni all unrhyw un ffidlan â’r system heb ymgynghoriad a chytundeb,” meddai.

Ond, petae cynllun newydd yn cael ei weithredu trwy orfodaeth, yna fe fyddai Llafur Cymru o blaid cael 60 Aelodau o’r Cynulliad, 30 o seddau dwy aelod a’r defnydd o’r dull cyntaf i’r felin.