Eurig Salisbury
Mae pedwar o feirdd o Gymru ar daith yn India, gyda’r nod o atgyfnerthu cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy wlad.

Mae Siân Melangell Dafydd, Robert Minhinnick, Twm Morys ac Eurig Salisbury yn ymweld â Kerala yn ne India.

Fe fyddan nhw’n cydweithio â phedwar bardd o India mewn gweithdy a drefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru. Gan gydweithio mewn parau a grwpiau, bydd y beirdd yn cyfieithu cerddi ei gilydd yn greadigol.

Dyma’r cam diweddaraf ym mhrosiect Cadwyn Awduron India-Cymru y Cyngor Prydeinig.

Mae hyn yn dilyn cyfres o weithdai a pherfformiadau yng Nghymru ym mis Mehefin eleni gan dri bardd o India.