Yn ei hunangofiant mae’r actores amryddawn Sharon Morgan yn dweud bod dramâu Saunders Lewis yn “anystwyth” ac yn mynnu nad ydyn nhw’n ddigon dramatig.

Mae haid o academwyr wedi brolio dramâu fel Siwan, Blodeuwedd a Gymerwch Chi Sigaret i’r cymylau, a sawl cenhedlaeth o blant ysgol wedi eu trwytho yng ngwaith y dramodydd oedd yn un o gymeriadau mwya’ dylanwadol Cymru’r ganrif ddiwetha’.

Ond yn ei hunangofiant Hanes Rhyw Gymraes mae Sharon Morgan yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd Cwmni Theatr Cymru yn y 1970au, dan arweiniad Wilbert Lloyd Roberts, yn gweld gwerth yng ngwaith Saunders Lewis:

“Er bod dramâu Saunders Lewis ar ga’l, wrth gwrs, yn ddiddorol iawn na’th Wilbert ddim dewis llwyfannu llawer ohonyn nhw, heblaw am Problemau Prifysgol. O’dd ‘na gynllun i lwyfannu Excelsior, ond fe dda’th anawsterau cyfreithiol ar ffurf enllib i’w rwystro ac fe gyflwynwyd Esther, do, ond nid Siwan na Blodeuwedd.

“Falle nad o’dd Wilbert, fwy na finne, yn cyfri’r dramâu mawr hanesyddol a chwedlonol yn addas.

“O’s, mae ynddyn nhw syniadau (pur adweithiol, mae’n rhaid dweud) a hefyd iaith brydferth, ond mae’n nhw’n anystwyth ac nid ydyn nhw’n ddigon dramatig.

“Mae’n nhw hefyd yn hen-ffasiwn. Sgrifennu fel rhan o’i genadwri i godi’r genedl Gymreig ‘nôl ar ei thread o’dd Saunders Lewis, a gellid ei gymharu â W B Yeats yn Iwerddon, ond nid o’dd ynte’n ddramodydd chwaith.”

Brolio Alun Ffred

Er nad yw’n gweld rhyw lawer yng ngwaith dramatig Saunders Lewis, mae Sharon Morgan yn canmol un arall o wynebau cyfarwydd Plaid Cymru i’r cymylau.

“Alun Ffred yw un o’r dynion doniola yng Nghymru,” meddai Sharon Morgan am Aelod Cynulliad Arfon, sy’n gyn-gariad iddi.

“Ac mae hefyd yn ddyn deallus a chraff, ac ro’dd yr holl nodweddion hynny’n gaffaeliad iddo wrth iddo ddod yn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru…”

Angen lobotomi i actio yn Pobol y Cwm

Yn ôl Sharon Morgan mae actorion opera sebon S4C yn cario’r can am ddiffygion y criw cynhyrchu.

“Mae actorion Pobol y Cwm yn gweithio’n galed ifnadwy ac yn derbyn y fflac yn amal am sgriptio a chyfarwyddo diddychymyg…Pan es i ‘nôl ar y gyfres rhwng 1984 a 1986, fy nghri fydde ‘Mynnwch eich lobotomies yn y dderbynfa’, wrth i fi fethu dygymod â’r diflastod ailadroddllyd.”

 Hanes Rhyw Gymraes, Hunangofiant Sharon Morgan, Y Lolfa, £9.95