Mae Heddlu’r De yn ymchwilio ar ol i ddyn ddioddef anafiadau mewn ymosodiad yn Ne Caerdydd.
Fe gafodd y dyn 36 blwydd oed ei ddarganfod wedi’i anafu mewn tŷ yn Sblot – ychydig cyn 2am fore heddiw.
Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle mae’n derbyn triniaeth.
Mae ymchwiliadau yn parhau.