Carl Sargeant
Fe fu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant heddiw yn amlinellu sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ardaloedd mwya difreintiedig Cymru pan fydd  rhaglen newydd Cymunedau’n Gyntaf yn cychwyn ym mis Ebril 2012.

Wrth annerch y gynhadledd flynyddol dywedodd Carol Sargeant bod y rhaglen yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau difreintiedig a hynny mewn cyfnod ansicr iawn.

Dywedodd Carl Sargeant bod y Llywodraeth wedi ei hymrwymo i “adeiladu ar gryfderau” y cynllun gwreiddiol a’i fod yn bwysig i wrando ar farn y bobl cyn symud ymlaen. Fe fu ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau.

Cyflwynwyd Cymunedau’n Gyntaf gan y Llywodraeth yn 2001 er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leol gyfrannu tuag at y gwaith o adfywio ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Beirniadaeth o’r cynllun gwreiddiol yw nad oedd arian oedd yn cael ei roi i brosiectau yn cael ei fonitro’n ddigonol. Wythnos ddiwethaf,  roedd gweinyddwr cynllun Cymunedau’n Gyntaf Plas Madoc yn Wrecsam, Miriam Beard, wedi pledio’n euog o ddwyn dros £50,000 o arian yr elusen.

Dywedodd Carl Sargeant y byddai’n rhaid i’r prosiectau ddangos sut mae  buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i ddelio â thlodi.

Ychwanegodd: “Ni fydd unrhyw waith nad yw’n cefnogi’r bwriad yma yn cael ei ariannu gan Gymunedau’n Gyntaf.”

Dywedodd ei fod yn bwysig bod llais y gymuned yn cael ei glywed. Ac i’r perwyl yma fe fydd pob ardal yn datblygu cynllun i geisio cael mwy o aelodau’r gymuned i fod yn rhan o’r prosiect, yn enwedig y rhai hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan dlodi.

Mae hefyd yn awyddus i’r rhai hynny sy’n gweithio i’r cynllun gyd-weithio ag eraill.

Dywedodd ei fod wedi ei ymrwymo i Gymunedau’n Gyntaf a sicrhau bod  rheolaeth gref a chysylltiad gwell â’r gymuned wrth galon y rhaglen newydd.