Carwyn Jones
Mae gwrthbleidiau Cymru i gyd wedi uno heddiw, er mwyn gwrthod cyllideb ddrafft y Llywodraeth.

Mewn datganiad gan Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a’r Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd y gwrthbleidiau eu bod yn gwrthod cefnogi’r gyllideb gan nad oedd yn rhoi ystyriaeth ddigonol i adrannau pwysig.

Mae’r pleidiau yn galw am roi mwy o arian ar gyfer iechyd, ysgolion, a’r adfywiad economaidd.

Mae’r galwadau yn adlewyrchu yr hyn y mae’r pleidiau wedi bod yn gwthio amdanyn nhw’n unigol, hyd yn hyn – gyda’r Ceidwadawyr wedi bod yn canolbwyntio ar iechyd, y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwthio am well buddsoddiadau mewn addysg, a Phlaid Cymru wedi bod yn herio record y llywodraeth ar yr economi ers mis Mai.

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyllid, Peter Black, mae’r pleidiau wedi “cynnig gwelliant ar y cyd i gyllideb ddrafft Llafur, gan nad ydyn ni’n teimlo mai dyma’r gyllideb iawn i Gymru.

“Mae blaenoriaethau Llafur yn gwrthdaro ag anghenion pobol Cymru ac ni fydd y gyllideb hon yn gwneud dim i’n heconomi ni, ein hysgolion ni, na’r gwasanaeth iechyd.

“Mae eu cynlluniau i ddelio â’r argyfwng economaidd yn gwneud bron dim i ysgogi hyder yn y sector busnes.”

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Gyllid, Paul Davies, fod blaenoriaethau’r gyllideb yn “methu â delio â galwadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr economi, nag ysgolion.

“Does neb yn disgwyl crochan o aur gan y Prif Weinidog,” meddai, “ond mae’n holl bwysig fod yr adrannau hyn yn cael y sylw cywir.”

Yn ôl y datganiad ar y cyd gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, maen nhw’n gofyn am bedwar gwelliant i’r gyllideb ddrafft, am nad yw’n ymdrin yn ddigonol â: “y pwysau ariannol sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; y gwaethygu yn yr argyfwng economaidd; y pwysau ariannol sy’n wynebu ysgolion i ateb gofynion plant dan anfantais; a’r pwysau ariannol ar brosiectau cyfalaf.”

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb i’r cyhoeddiad hyn gan ddweud “nad ydyn ni’n synnu fod gan y pleidiau safbwyntiau gwahanol” ar le mae’r arian wedi ei ddynodi yn y gyllideb ddrafft.

“Rydyn ni eisiau gweithredu Cyllideb ar gyfer pobol Cymru, ac fe fyddwn ni’n parhau i drafod y mater yn gyfrifol gyda phleidiau eraill.”

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, fanylion y gyllideb ddrafft gwerth £14.5 biliwn – gan ddatgelu rhywfaint o gynnydd yng nghyllideb yr adrannau addysg a iechyd flwyddyn nesaf, ond yn torri ar gyllidebau’r adrannau eraill.

Bydd y pleidiau yn cyfarfod i drafod y gyllideb ddrafft yn Siambr y Cynulliad ddydd Mawrth nesaf, pan fydd cyfle i’r pleidiau fwrw’u bol ar eu gwrthwynebiad i’r gyllideb ddrafft.

Ond fe fydd yn rhaid i Lafur gyfaddawdu, neu ddwyn perswad ar un o’r pleidiau eraill i ymuno â nhw, os ydyn nhw am basio’u cyllideb terfynol yn y bleidlais sydd i fod i gael ei gynnal ar 6 Rhagfyr.