Mae’r Gweinidog Iechyd wedi wfftio honiadau mai rhyw gawl eildwym yw argymhellion  Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn y bum mlynedd nesaf.

Wrth agor cynhadledd flynyddol Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru heddiw, mynnodd Lesley Griffiths fod y rhaglen newidiadau ar gyfer y bum mlynedd nesaf, ‘Law yn Llaw at Iechyd’, yn cynnwys camau arloesol sy’n gobeithio trawsnewid y gwasanaeth.

“Nid yr un hen syniadau mo’r rhain,” meddai, wrth annerch cynhadledd o gynrychiolwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru.

“Sôn rydyn ni yma am ymrwymiad ar y cyd i rywbeth gwahanol a rhywbeth deinamig.”

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, mae’r weledigaeth newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn wahanol oherwydd “amgylchedd newydd y penderfyniadau, dulliau gweithredu newydd o du’r Llywodraeth, ac ymrwymiad cadarn i sicrhau llwyddiant.”

Yr agenda ariannol

Wrth annerch y gynhadledd heddiw, rhybuddiodd Lesley Griffiths y byddai’n rhaid i’r byrddau a’r ymddiriedolaethau ddysgu byw o fewn cyfyngderau eu coffrau ariannol.

Dywedodd nad oedd dewis gan y byrddau iechyd ond cyrraedd eu targedau ariannol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, fel eu bod nhw mewn sefyllfa gwell i ddelio ag unrhyw arbedion fydd yn rhaid eu gwneud dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Helen Birtwhistle, mae hyn yn wir, ond mae llawer y gellid ei wneud o fewn cyfyngderau’r coffrau hynny.

Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg, dywedodd: “Does dim modd osgoi’r sefyllfa ariannol anodd,” meddai, “ond hyd yn oed pe byddai gynnon ni bwll diwaelod o arian, byddai’n dal yn rhaid inni wneud llawer iawn o newidiadau.”

Mae sylwadau Helen Britwhistle yn ategu beirniadaeth arweinydd y Democratiaid  Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, o’r Gwasanaeth Iechyd heddiw, wrth iddi ddod i’r amlwg fod y gwasanaeth yn dal i fethu ymdopi â chynnydd yn y rhestrau aros.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau o bunnoedd ar ad-drefnu costus, tra ar yr un pryd yn gwrthod edrych ar honiadau fod pumed rhan o’r gyllideb addysg yn cael ei wario’n aneffeithlon,” meddai Kirsty Williams.

Ond mae Llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd yng Nghymru, Darren Millar, wedi dweud y dylid ail-edrych ar y weledigaeth yn ei chyfanrwydd – a gwrthod llawer o gynnwys rhaglen newidiadau ‘Law yn Llaw at Iechyd’.

“Mae hi nawr yn glir fod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ei chael hi’n anodd dwyn perswad ar rai o’i aelodau meinciau cefn ei hun fod gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn haeddu eu cefnogaeth,” meddai.

“Dylai hyn fod yn fodd i ddihuno Llywodraeth Cymru i’r gwirionedd fod angen ailystyried eu strategaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac ailfeddwl eu cynlluniau i dorri cannoedd o filiynau o gyllideb y gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd nesaf.”

Amddiffyn y newidiadau

Mae’r rhaglen newidiadau wedi cael ei groesawu gan  Helen Birtwhistle.

Dywedodd fod “darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol ddim yn golygu ein bod yn torri ar wasanaethau.”

Mae’r Conffederasiwn yn dod â’r holl gyrff sy’n perthyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru at ei gilydd, gan roi llais annibynnol wrth anelu am wella’r ddarpariaeth iechyd ac, yn sgil hynny, iechyd y genedl.

Yn ôl Helen Birtwhistle, mae’r weledigaeth ar gyfer y bum mlynedd nesaf yn ffordd o symud y gwelliannau ymlaen – gan arwain at wella profiad y claf wrth ddelio â’r gwasanaeth iechyd, nid yn unig gweld gwelliant mewn ystadegau moel.

“Dyw’r nifer o ysbytai a’r nifer o welyau sydd gynnon ni ddim yn fesur o lwyddiant bellach,” meddai Helen Birtwhistle, “mae eisio meddylfryd gwahanol.”

Dywedodd hefyd fod angen ehangu ar y gwasanaeth sydd ar gael trwy dargedu anghenion cleifion yn lleol.

“Rydyn ni angen darparu mwy o wasanaethau diagnostig yn nes at adref mewn canolfannau, unedau symudol neu yn y cartref – pethau fel sgrinio ar gyfer canser y fron, profion gwaed, cleifion sydd ar ddialysis.”

Gallwch ddarllen mwy o’r cyfweliad â Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar y newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd yng nghylchgrawn Golwg, 10 Tachwedd.