Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi bod yn annerch cynhadledd Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru heddiw, wythnos wedi iddi gyflwyno rhaglen o newidiadau eang i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Bydd Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r newidiadau yma yn eu cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd heddiw, gan wahodd arweinwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ar draws Cymru i rannu syniadau ar y newidiadau.

Mae’r weledigaeth bum mlynedd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yr wythnos ddiwethaf, Law yn Llaw at Iechyd, yn ceisio newid y gwasanaeth iechyd fel ei bod yn darparu “gwasanaethau cymunedol gyda chleifion yn ganolog iddi,” gydag “ansawdd, atal a thryloywedd wrth galon gofal iechyd.”

Yn ôl Lesley Griffiths, mae’n rhaid cyflwyno strategaeth newydd ar gyfer y bum mlynedd nesaf er mwyn  ymdopi â newid yng ngofynion y boblogaeth o’r gwasanaeth iechyd. Rhai o’r ffactorau hyn yw’r ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio, anghydraddoldebau iechyd yn parhau, nifer y cleifion â chyflyrau cronig yn cynyddu, a mwy o bwysau ar staff ac am wasanaethau arbenigol.

Yn ôl y Gweinidog, mae’n rhaid ystyried sut y bydd y boblogaeth yn edrych mewn pum mlynedd, ac er mwyn ateb hynny, mae’n rhaid moderneiddio, gwella’r strategaeth wybodaeth, gwella ansawdd gofal, a newid y gyfundrefn ariannol.

Wrth gyhoeddi’r rhaglen newydd yr wythnos diwethaf, dywedodd Lesley Griffiths fod “cynaladwyedd wrth galon agenda Llywodraeth Cymru,” a bod cytundeb yn y sector bod rhaid “gweithredu nawr i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd.”

Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd heddiw fe fydd Andy Black, Cadeirydd Durrow, ac awdur Providing acute services locally, Jim Lawless, awdur Taming Tigers, a Rheolwr Gyfarwyddwr siop John Lewis yng Nghaerdydd, Chris Earnshaw, a fydd yn trafod ffyrdd newydd o reoli busnes yn yr hinsawdd economaidd presennol.