Carwyn Jones
Mae  Prif Weinidog Cymru wedi agor Canolfan Ynni gwerth £6 miliwn ar gampws Coleg Menai ar Ynys Môn heddiw.

Yn y lansiad, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru bod y Ganolfan Ynni yn “rhan bwysig iawn o ddymuniad Ynys Môn i fod yn ‘ynys ynni’:

“Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol mwyaf sy’n wynebu’r blaned.

“Mae dyfodol ein lles materol a’n lles cymdeithasol yn dibynnu ar lwyddo i gyflenwi digon o ynni carbon isel fforddiadwy,” meddai Carwyn Jones.

Fe wnaeth hefyd longyfarch Pennaeth Coleg Menai, ei dîm a’u partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat “am eu gwaith yn datblygu cyfleuster mor rhagorol.  Rwy’n dymuno bob llwyddiant i’r Ganolfan ac i fenter Ynni’r Ynys,” meddai.

Fe ddywedodd Dafydd Evans, pennaeth Coleg fod “economi’r byd wedi newid llawer ers iddo ymweld â ni gyntaf ac mae’n bwysicach nag erioed bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gystadlu am swyddi mewn unrhyw sector.”

Bydd y Ganolfan Ynni’n cynnal cyrsiau arbenigol i bobl ifanc hyfforddi ac i weithio yn y diwydiant ynni.

Niwclear

“Mae’r Ganolfan Ynni newydd yn gyfleuster rhagorol i ddarparu cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a bydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn cynorthwyo dysgwyr lleol i ddilyn llwybr gyrfa esmwyth i’r sector niwclear,” meddai Jean Llywellyn OBE, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Niwclear.

“Bydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiau mewn weldio a saernïo haearn sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu niwclear yng Ngorsaf Ynni’r Wylfa sydd gerllaw a hefyd, ar gyfer y prosiect ynni niwclear newydd hefyd.  Bydd cyfleusterau’r Ganolfan Ynni ar gael i ni allu cynnig ein gwasanaethau reit ynghanol gweithgareddau niwclear Gogledd Cymru.”

Hefyd, bydd y Ganolfan Ynni yn gartref i gyfleusterau weldio a saernïo mwyaf modern Cymru.  Bydd yno hefyd adran arloesi busnes a chyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf.