Elin Jones AC
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan heddiw eu bod nhw yn gefnogol i greu parth ar y we i Gymru, er nad ydyn nhw’n fodlon ymrwymo i gefnogi parth ‘.cymru’, neu ‘.wales’.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth heddiw eu bod nhw “yn cefnogi egwyddor creu parth i Gymru, ac fe fyddwn ni’n gwahodd pobol i gyflwyno’u cynigion cyn hir.”

Daw’r sylw wedi i’r Aelod Cynulliad Elin Jones feirniadu ymateb llugoer y Prif Weinidog Carwyn Jones i’r cynnig y dylid cyhoeddi fod cefnogaeth yn benodol i greu parth .cymru neu .wales yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Wrth holi’r Prif Weinidog yn y siambr ddydd Mawrth, gofynnodd Elin Jones AC a fyddai’n fodlon “cadarnhau y bydd eich Llywodraeth ond yn cefnogi cais sydd yn cynnwys ‘.cymru’ yn ogystal ag, o bosibl, ‘.wales’?”

Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud “Na wnaf. Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau’r enw parth a fydd yn rhoi’r hwb economaidd gorau i Gymru.”

Mae’r ymateb gan y Prif Weinidog wedi codi cwestiynau pellach ynglŷn â beth sydd i ddigwydd pan fydd Icann yn rhoi’r cyfle i bobol wneud ceisiadau newydd ar gyfer enw parth ar y we o fis Ionawr i fis Ebrill 2012.

Mae’r sefyllfa eisoes wedi achosi cryn drafod ar ôl i gwmni o Rydychen, Nominet, ddangos diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y parth i Gymru yn ddiweddar – gan sathru rhywfaint ar draed cwmni dotCym, o orllewin Cymru, sydd wedi bod yn lobio’r Llywodraeth er mwyn cael gwneud cais i sefydlu parth i Gymru ers 2006.

‘Siomedig’

Yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Elin Jones ei bod yn “siomedig iawn i glywed y Prif Weinidog yn gwrthod rhoi ei gefnogaeth lawn i .cymru.

“Mae’n hanfodol nad yw cyfleon sy’n cael eu cynnig gan broses geisiadau Icann flwyddyn nesaf yn cael eu colli gan ei bod hi’n bosib na ddaw’r cyfleon hynny eto am flynyddoedd. Dyma pam fy mod i’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad llawn. Ry’n ni angen dadl lawn ar sicrhau enwau parth .cymru a .wales dros ein gwlad.”

Cystadleuaeth rhwng dau

Un cais, ar y mwya’, fydd yn mynd i Icann ar ran Cymru pan ddaw’r cyfnod ymgeisio yn 2012, ac fe fydd yn rhaid i’r cais hwnnw gael cefnogaeth y Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae’n gystadleuaeth rhwng dotCym a Nominet am y sêl bendith hwnnw.

Yn ystod y sesiwn holi, gofynnodd yr AC Llafur Ken Skates i’r Prif Weinidog am sicrwydd mai “potensial economaidd i Gymru fydd ar frig y rhestr o ofynion sy’n cael eu llunio er mwyn penderfynu pa gais i’w gefnogi.”

Dywedodd  Carwyn Jones nad oedd “dim un cais wedi ei wneud i’r Llywodraeth am lythyr o gefnogaeth hyd yn hyn.

“Fe fyddwn ni yn gwahodd y rheiny sydd â diddordeb i wneud cais i gael ei werthuso ganddon ni cyn hir, er mwyn deall beth mae’r ymgeiswyr posib yn eu cynnig.”