Kate Roberts
Dyw awdur y llyfr Saesneg ar fywyd Kate Roberts yn synnu dim bod sôn y bydd cofiant newydd i’r llenor yn honni ei bod yn hoyw, mae’n cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg heddiw.

Fe ddywedodd Katie Gramich wrth Golwg ei bod yn credu bod rhai gweithiau gan yr awdur gan gynnwys Tywyll Heno yn “rhyw fath o efelychiad o’i bywyd hi a’i ffrind agos o ffoadures o Hwngari ar ôl yr Ail Ryfel Byd.”

Mae’n dweud ei bod yn “amlwg bod agosatrwydd at ferched yn bwysig iddi…”

Mae’r Lolfa, Alan Llwyd a chwmni Tinopolis eisoes wedi gwrthod datgelu beth sydd yn y gyfrol newydd.

Dywedodd Alan Llwyd wrth Golwg360 ei fod wedi “ymrwymo i dawedogrwydd” oherwydd rhaglen ar S4C.

Mae disgwyl y bydd cofiant Alan Llwyd a rhaglen deledu sydd wedi’i selio arno yn cynnig tystiolaeth newydd am Kate Roberts.

Mae Alan Llwyd yn disgrifio’r cofiant fel un “cyflawn, cyfrifol” sydd wedi’i “ymchwilio’n drylwyr.”

Bydd yn “gryn agoriad llygad,” meddai.

Bydd cofiant Alan Llwyd, Kate, yn cael ei gyhoeddi  ar Dachwedd 18, gan wasg y Lolfa.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 10 Tachwedd.