Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi gosod safonau llym i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a phobl leol ger gorsaf bŵer Penfro – wrth iddo ganiatau trwydded amgylcheddol i’r safle heddiw.

Daw’r penderfyniad ar ôl i wyddonwyr yr Asiantaeth gynnal sawl ymchwiliad i mewn i’r effeithiau y bydd y safle yn ei gael ar Ardal Cadwraeth Forol Arbennig Sir Benfro.

Roedd ymchwiliadau’r gwyddonwyr yn dangos y byddai rhai newidiadau mewn ardaloedd bychan o amgylch yr orsaf bŵer, ond y bydd y safle cadwraeth yn cael ei amddiffyn yn ei gyfanrwydd.

Mae’r asiantaeth wedi penderfynu ar safonau amddiffyn llym gafodd eu codi yn ystod yr ymgynghoriad. Mae’r safonau hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt o effeithiau’r hyn fydd yn cael ei ollwng o’r safle ac i amddiffyn cymunedau lleol rhag y sŵn yn dod o’r safle.

Gwrthwynebu

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi profi nad ydyn nhw’n gwneud gwaith digon manwl wrth asesu effaith gorsafoedd pŵer ar ôl iddyn nhw ddiystyru nifer o ffactorau amgylcheddol ar gyfer yr orsaf bŵer newydd sydd ar y gweill yn Sir Benfro. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei chwblhau yn 2012.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn gwrthwynebu rhoi trwydded i’r orsaf bŵer ar hen safle pwerdy llosgi olew ym Mhenfro, oherwydd pryderon y gallai arwain at lygru’r dŵr yn lleol.

Ond, fe ddywedodd Steve Brown, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod y “penderfyniad wedi’i wneud ar ôl un o’r asesiadau mwyaf dwys i’r Asiantaeth erioed ei gynnal yng Nghymru”. Mae’r Ardal Cadwraeth Forol Arbennig yn un o’r lleoliadau mwyaf sensitif yng Nghymru, meddai cyn dweud y dylai gael ei amddiffyn yn gyfreithiol.

Ardal a thrigolion

Dywedodd fod yr asiantaeth hefyd wedi ystyried barn pobl leol a sefydliadau eraill oedd yn rhan o’r ymgynghoriad maith i’r orsaf.

“Wrth gymeradwyo’r drwydded heddiw, rydan ni’n credu ein bod wedi sicrhau amddiffyn yr amgylchedd lleol a hefyd diogelu diogelwch ynni a buddiannau economaidd yr ardal” meddai.

Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys mwy na 21,000 o asesiadau i effaith yr orsaf.