Mae gwraig oedrannus mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char a cherddwraig ger Aberystwyth.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i’r ddamwain yn Nhrefechan, Aberystwyth tua hanner dydd heddiw.

Cafodd y wraig ei chludo i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mewn hofrennydd. Mae hi mewn cyflwr difrifol.

Cafodd gyrrwr un o’r cerbydau ei gludo i Ysbyty Bronglais gyda mân anafiadau. Mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd y ffordd ei chau i’r ddwy gyfeiriad ac mae disgwyl iddi ail-agor heno.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad rhwng Skoda Octavia glas, Volkswagon Polo du a Rover 400 gwyrdd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 01267 222020.