Ahmed Al-Lami
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i gorff myfyriwr gael ei ddarganfod ar draeth ym Mro Morgannwg.

Roedd Ahmed Al-Lami wedi diflannu o’i gartref yn Nhrefforest ger Pontypridd rhywbryd rhwng  Medi  24 a 26. Daeth yr heddlu o hyd i’w gorff ger Brychdwn ar Hydref 5.

Roedd Ahmed yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n debyg fod Ahmed yn bwriadu mynd i wersylla pan adawodd ei lety yn Nhrefforest am ei fod  wedi mynd â phabell gyda fo.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu’r Porth ar 101, 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.