Bydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal Eisteddfod tu allan i Gymru am y tro cyntaf eleni, a hynny ar gyfer y nifer cynyddol o gystadleuwyr o du hwnt i Glawdd Offa sydd eisiau cymryd rhan yn yr ŵyl.

Bydd yr ‘Eisteddfod Tu Allan i Gymru’, sef y cam cyntaf i gystadleuwyr o du allan i Gymru sydd eisiau cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eryri 2012, yn cael ei chynnal yng Nghapel Jewin, yn ardal y Barbican yn Llundain ar 17 Mawrth 2012.

Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae cystadleuwyr o du allan i Gymru wedi gorfod dod i fath o Eisteddfod Sir yn arbennig ar eu cyfer nhw yng Nghaerdydd. Ond yn dilyn yr Eisteddfod honno eleni, fe ddaeth cais gan nifer o gystadleuwyr i’r Urdd ystyried cynnal yr Eisteddfod yn fwy lleol iddyn nhw.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal Eisteddfod i gystadleuwyr o du allan i Gymru ers wyth mlynedd bellach, ond mae’r Eisteddfod wedi tyfu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai llefarydd ar ran yr Urdd wrth Golwg 360.

“Yn 2008 roedd yna wyth cystadleuaeth yn yr Eisteddfod i rai tu allan i Gymru, ond erbyn y llynedd roedd ’na 90 o gystadlaethau.”

Mae’r cynydd yma wedi dod yn sgil sefydlu nifer o aelwydydd yr Urdd tu allan i Gymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl y llefarydd.

Sefydlwyd yr aelwyd gyntaf tu allan i Gymru, Aelwyd Prifysgol Durham, yn ôl yn 2007, ac erbyn hyn mae yna aelwyd gref yn Llundain, ac mae Ysgol Gymraeg Llundain hefyd yn cystadlu gyda’r Urdd erbyn hyn.

Bydd yr Urdd nawr yn mynd ati i drefnu’r Eisteddfod ar y cyd rhwng y swyddogion yng Nghymru a grŵp o wirfoddolwyr yn Llundain, ac mae trefniadau fel penderfynu ar feirniaid eto i’w gwneud.