Mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu penderfyniad y Llywodraeth i drosglwyddo pwerau dros drwyddedu gosafoedd pŵer i ddwylo Asisantaeth yr Amglychedd.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi profi nad ydyn nhw’n gwneud gwaith digon manwl wrth asesu effaith gorsafoedd pŵer ar ôl iddyn nhw ddi-ysytru nifer o ffactorau amgylcheddol ar gyfer gorsaf bŵer newydd sydd ar y gweill yn Sir Benfro.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn gwrthwynebu rhoi trwydded i orsaf bŵer newydd ar hen safle pwerdy llosgi olew ym Mhenfro, oherwydd pryderon y gallai arwain at lygru’r dŵr yn lleol.

“Dydy Asiantaeth yr Amgylchedd ddim wedi cymryd unrhyw ystyriaeth o’r ffaith fod rhan helaeth o ardal cadwraeth arbennig Afon Cleddau mewn sefyllfa sydd eisoes yn dirywio,” meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wrth Golwg 360.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn pryderu y gallai miliynau o fetrau ciwbig o ddŵr diwydiannol gael eu gollwng i’r amgylchedd – pryder sydd hefyd  wedi ei fynegi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

“Dydy’r asiantaeth ddim wedi ystyried y goblygiadau i’r amgylchedd yn llawn,” meddai Gareth Clubb.

Mae Cyfeillion y Ddaear bellach wedi mynd â’u cwyn i Ewrop, ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd nawr yn ystyried a oedd y modd cynhaliwyd yr asesiad amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn un dilys.

Barod i fynd – a dim trwydded

Yn ôl Gareth Clubb, mae Cyfeillion y Ddaear hefyd yn “anniddig iawn” fod cwmni RWE npower, sy’n gyfrifol am yr orsaf bŵer, wedi cael bwrw ’mlaen ag adeiladu’r orsaf bŵer heb hyd yn oed wybod a fyddan nhw’n llwyddiannus wrth gael trwydded.

Dywedodd Gareth Clubb wrth Golwg 360 fod y Llywodraeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymryd y “risg aruthrol” o orfod tynnu’r drwydded yn ôl, os ydyn nhw’n penderfynu trwyddedu’r orsaf cyn i’r Comisiwn Ewropeaidd ddod i benderfyniad.

Ond mewn datganiad gan Gyngor Sir Benfro heddiw, dywedodd dirprwy arweinydd y Cyngor, John Allen-Mirehouse, ei fod yn cefnogi gweld y gorsaf bŵer yn agor.

“Mae’r Gorsaf Bwer yn cynrychioli buddsoddiad o £1 biliwn yn Sir Benfro gan gwmni rhyngwladol enfawr. Mae hyn yn dangos hyder yn y Sir, ac rydyn ni’n disgwyl y bydd yn creu rhagor o fuddsoddiad.”

Dywedodd y Cynghorydd ei bod hi’n “holl bwysig fod y safle yn sicrhau ac yn cynnal lefelau uchel o ofal amgylcheddol, unwaith iddo ddechrau ar ei waith.”

Ychwanegodd y Cyngorydd ei bod yn “bwysig bod y prosiect yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen wreiddiol oherwydd ei gyfraniad pwysig i economi Sir Benfro.”

Mae Golwg 360 wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru a Asiantaeth yr Amgylchedd am ymateb i bryderon Cyfeillion y Ddaear, ond dywedodd llefarydd ar ran y Llwyodraeth wrth Golwg 360 mai gwybodaeth “wedi ei ryddhau” oedd gan Cyfeillion y Ddaear, ac na fyddai sylw pellach yn cael ei wneud ar y mater am y tro.

Ond yn ôl Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, cafwyd y wybodaeth mewn neges swyddogol gan swyddog o fewn y Llywodraeth ei hun.

Mae Golwg 360 yn dal i ddisgwyl ymateb.