Simon Thomas
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r system y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflwyno er mwyn mesur llwyddiant ysgolion fis nesaf.

Yn ôl y blaid, fe fydd y system newydd o ‘fandio ysgolion’ yn achosi problemau i rai ysgolion, ac y bydd ysgolion yn cael eu tanseilio gan system sydd “yn gosod ysgolion yn erbyn ei gilydd.”

Bydd y system o ‘fandio ysgolion’ yn cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth fis nesaf, ac mae’r cynllun wrth wraidd gwaith Uned Safonau Ysgolion newydd y llywodraeth, dan arweiniad Adran Addysg Leighton Andrews.

Ond yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas AC, mae pryder mawr ynglyn â’r system newydd ymhlith athrawon – ac mae hynny, medd, yn dangos y gwendidau mawr sydd eisoes yn bodoli yn y system newydd.

Ffordd i godi gwarth?

Yn ôl Plaid Cymru, y prif bryder yw “mai ei unig ganlyniad fydd codi gwarth ar ysgolion sydd ar waelod y band, a’u nodi fel ysgolion sy’n ‘methu’, gan danseilio ymdrechion i wella safonau addysg.”

Bydd y system bandio yn defnyddio data cenedlaethol er mwyn darparu gwybodaeth ynglŷn â safonau ysgolion ar draws y wlad. Y math o ddata bydd yn cael ei ddefnyddio bydd canlyniadau TGAU, cymhwyster ar gyfer prydau ysgol am ddim, ffigyrau presenoldeb, a datblygiad dros nifer o flynyddoedd.

Ffordd i adnabod angen?

Wrth gyhoeddi’r cynllun ‘bandio’ newydd ym mis Gorffennaf, dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, mai “diben bandio yw grwpio ysgolion yn ôl amryw o ffactorau i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer cael cymorth gwahaniaethol a nodi’r elfennau hynny y gall y sector cyfan ddysgu oddi wrthyn nhw.”

Mynnodd y Gweinidog Addysg “nad hanfod bandio yw labelu ysgolion, eu henwi a chodi cywilydd arnyn nhw, na chreu tabl cynghrair cynhennus.” 

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas, yn dweud mai dyna fydd union ganlyniad y system.

“Mae’r Gweinidog Llafur am enwi a chywilyddio yr ysgolion hynny sydd yn ei farn ef yn tan-befformio,” meddai, “ond gallai hyn eu tanseilio ymhellach.”

“Dywedodd y Gweinidog Addysg ei hun fod tablau cynghrair yn ‘simplistig’ a ‘dinistriol’ ac eto mae’n parhau i’w sefydlu yng Nghymru dan enw arall.”

Yn ôl Simon Thomas AC, fe fydd y system ‘bandio’ yn “amlygu’r bwlch rhwng ysgolion ‘da’ ac  ysgolion ‘drwg’ heb ymdrin â’r rhesymau dros y methiant.

“Mae athrawon yn anhapus yn ei gylch, mae undebau’r athrawon yn anhapus yn ei gylch, ac y mae pryderon dybryd eisoes fod y gwarthnod negyddol yn cael effaith.”