Mae Cyngor Powys wedi cyflwyno cynlluniau newydd “radical” i ad-drefnu addysg uwchradd yn y sir.

Dywed y Cyngor Sir eu bod wedi cyflwyno’r cynigion newydd i atgyfnerthu a moderneiddio addysg uwchradd a sector hyfforddi Powys sydd ar hyn o bryd dan bwysau.

“Mae gwasanaethau addysg led led y wlad yn wynebu dyfodol difrifol a heriol gydag anghenion dyrys o du’r cwricwlwm cenedlaethol, gostyngiad yn nifer y disgyblion a phwysau ariannol difrifol.  Os na fydd newid, bydd ein gallu i gynnal addysg ansawdd uchel Powys o dan fygythiad go iawn”, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, y Cynghorydd Stephen Hayes.

Bydd y cynigion sydd i’w hystyried gan y Cabinet ar ddiwedd y mis, yn canolbwyntio ar addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg, darpariaeth ôl-16 a gwella cydweithio rhwng ysgolion.

Cafodd ymgynghoriad anffurfiol ei gynnal i’r cynlluniau ad-drefnu yn y sir yn gynharach eleni.

“Yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol eleni, dywedodd y cymunedau nad oeddynt am weld ysgolion yn uno,” meddai’r cynghorydd Stephen  Hayes.

“Rydym wedi gwrando a diystyru’r syniad o uno, ond mae’n hanfodol eu bod yn cydweithio’n agosach ac rydym yn bwriadu sefydlu cyfres o deuluoedd i sicrhau cydweithio agosach rhwng ysgolion uwchradd.”

Dyma’r “teuluoedd” sy’n cael eu cynnig:

Teulu 1 – Y Trallwng – Caereinion – Llanfyllin (Triscol)

Teulu 2 – Y Drenewydd – Llanidloes – Bro Ddyfi

Teulu 3 – Llanfair-ym-Muallt – Llandrindod – John Beddoes

Teulu 4 – Maesydderwen – Crughywel – Aberhonddu – Gwernyfed

Ôl-16

Ar hyn o bryd mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyflwyno  trwy saith o ysgolion ond mae’r cyngor yn bwriadu gwella’r  ddarpariaeth ôl-16 oed yn safleoedd Llanfair-ym-Muallt, Caereinion a Bro Ddyfi, gan gynyddu nifer y cyrsiau sydd ar gael.

Dywedodd Stephen Hayes: “Er bod y newidiadau wedi’u gyrru gan yr angen i wella dewis a chysondeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16, byddant hefyd yn creu rhywfaint o arbedion. Mae’r cynigion yn dangos ein hymrwymiad cryf i ddarparu amgylchedd lle gall addysg cyfrwng Cymraeg dyfu a ffynnu, ac i’r pwynt lle gellir ystyried ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg benodedig.

“Erbyn hyn nid yw’n ymarferol cynnig addysg ôl-16 bob yn damaid dros 13 o ysgolion uwchradd, mae lefel cymhorthdal y cyngor eisoes bron i £500,000 y flwyddyn yn fwy na chyllid Llywodraeth Cymru, ac fe allai godi i fwy na £1m y flwyddyn os na wnawn gymryd y camau priodol.

“Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, rydym yn bwriadu cyflwyno corff comisiynu canolog newydd i reoli cyrsiau ôl-16.

“Bydd y corff yn sicrhau bod cyrsiau’n cael eu comisiynu yn ôl yr angen a bod y niferoedd yn cyfateb â’r cyllid sydd ar gael.”

Dywedodd Stephen Hayes bod hyn yn fan cychwyn hanfodol o foderneiddio addysg uwchradd, “ond mae llawer o waith i’w wneud eto”.

Bydd y cynigion yn cael eu trafod mewn cyfarfod o’r Cabinet ar 22 Tachwedd.