Llandysul (Marion Phillips CCA 2.0)
Mae ymgyrchwyr mewn ardal wledig wedi condemnio penderfyniad Cyngor Sir i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau ysgolion bach a chodi un ysgol arloesol newydd.

Fe fydd penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion yn niweidio addysg plant ac yn golygu na fydd arian ar gael ar gyfer ardaloedd eraill, meddai un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn.

Mae Gethin Jones o Bontsian wedi cyhuddo’r Cyngor o “ffolineb” wrth fenthyg arian i dalu am y cynllun.

Ddoe, fe benderfynodd Cabinet Ceredigion y bydden nhw’n cyfrannu £6.4 miliwn arall at gostau codi ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul.

Torri grant

Mae’r gwario ychwanegol yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth i dorri’r grant ar gyfer datblygiadau o’r fath o 70% i 50%.

Fe fyddai hynny’n golygu cau nifer o ysgolion bach yn yr ardal ac mae carfan gre’ o rieni a thrigolion lleol yn erbyn y datblygiad.

Ond mae’r Cyngor Sir yn mynnu bod y datblygiad yn bwysig o ran datblygu addysg yn yr ardal ac fe fydd ysgol newydd sbon yn cynnig adnoddau ardderchog.

Datganiad y gwrthwynebwyr

Dyma ran o’r datganiad gan Gethin Jones o Grŵp Amddiiffyn Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul.

“Ffolineb llwyr fydd bwrw ymlaen gyda’r cynllun ysgol 3-19 gan fenthyg miliynau o bynnoedd yn ychwanegol a heb cymryd unrhyw sylw o’r gwrthwynebiad chwyrn sydd wedi dod oddi wrth rhieni a thrigolion lleol.

“Mi fydd yn effeithio’n andwyol ar addysg ein plant ac ar ein cymunedau, tra’n amddifadu ardaloedd eraill o’r sir sydd wedi bod yn gofyn am welliannau i’w hysgolion o unrhyw obaith am gyllid.

“Mae’r penderfyniad yma ond yn amlygu yr agwedd unllygeidiog mae adran addysg Ceredigion wedi dangos drwy’r broses yma dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”