Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi galw am adolygiad llawn o S4C gan Lywodraeth Cymru a’r DU, mewn trafodaeth ar sefyllfa’r sianel yn Siambr y Cynulliad.

Mewn trafodaeth a ddenodd consensws ar draws y siambr, cytunwyd bod angen galw am adolygiad o brosesau gweithredu a llywodraethu’r Sianel.

“Mae S4C bellach mewn sefyllfa i ddechrau ymateb i’r heriau newydd,” meddai’r Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis.

“Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir – dylai adolygiad eang o S4C gael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd.”

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Gweinidog bod angen diogelu S4C, a chadw rheolaeth ar y sianel yng Nghymru.

“Nid yw’n iawn fod dyfodol darlledu yng Nghymru yn cael ei arwain gan doriadau sy’n cael eu gorfodi gan Lywodraeth y DU,” meddai Huw Lewis.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i ddatgan ein pryderon i Lywodraeth y DU ac i Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch effaith unrhyw doriadau mawr mewn cyllid ar S4C a’i allu i wasanaethu cynulleidfa Gymreig,” meddai. “Rydym hefyd wedi pwysleisio’r angen i S4C barhau’n sianel annibynnol gyda’i gyllideb ei hun.”

Dyma’r awgrym cryfaf o du Llafur hyd yn hyn eu bod yn cefnogi galwadau gan grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â Phlaid Cymru, am ddatganoli pwerau dros redeg S4C i Gymru.

Dywedodd Huw Lewis fod “S4C yn rhy bwysig i Gymru i ni beidio â chwarae rhan lawn yn y trafodaethau am ei rôl yn y dyfodol.”

Gan ategu sylwadau ei gyd-Lafurwr, dywedodd Keith Davies, Aelod Cynulliad Llanelli, fod angen gweld trafodaethau ar ddyfodol S4C “yn cael eu cynnal fan hyn, yng Nghymru.”

Wrth groesawu’r consensws am adolygiad o S4C yn y siambr heddiw, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, fod nawr angen “dyddiadau… syniadau… a chalyniadau arnon ni,” er mwyn cael cynllun ar gyfer gweithredu’r adolygiad.